Aros
Aros ym Mhortmeirion
Mae ym Mhortmeirion gyfanswm o 53 o ystafelloedd a switiau. Mae 14 ohonyn nhw ym mhrif adeilad y Gwesty ac 11 yng Nghastell Deudraeth. Mae'r gweddill, sef 27 ystafell neu swît, ym mhentref Portmeirion. Er bod rhai ar lefel y llawr mae yna rai ar lefelau uwch gyda grisiau tu allan.
I gael golwg ar luniau o'r llofftydd cliciwch yma
Mae yna
lifft a grisiau yng Nghastell Deudraeth (ond dim ond grisiau
preifat o'r ail lawr i swît Pen-y-Twr). Gellir rhoi gwely plygu neu
got yn rhai o'r ystafelloedd, heblaw yn llofftydd y Gwesty gan nad
ydynt yn addas.
Gweinir brecwast yn y prif adeilad ac yng Nghastell Deudraeth neu fe ellir archebu brecwast yn yr ystafell. Mae cinio dydd a chinio nos ar gael yn y Gwesty a'r Castell (ar brydiau bydd bwyty'r Gwesty ar gau amser cinio oherwydd achlysur preifat). Mae dewisiadau eraill o ran cinio yn y pentref: caffi Eidalaidd Caffi Glas a bwyty estyn ato Neuadd y Dref.
Siocledi Cymreig
Beth am ychwanegu bocs o Siocledi Cymreig at eich arhosiad - Rhowch wybod i'r Adran Llety neu archebwch ar lein
£15.00 y bocs
