Bythynnod Portmeirion
Mae'r bythynnod yn cynnwys ceginau gyda chyflenwad
o lestri, gwydrau, offer coginio a phopty microdon. Mae teledu lliw
sgrin fflat ymhob bwthyn gyda a pheiriant chwarae DVDs â ffôn
deialu uniongyrchol. Mae gwasanaeth band eang diwifr ar gael
ymhob bwthyn.
Yn gynwysedig yn y pris mae gwresogi, tyweli a chynfasau. Bydd y gwelyau wedi eu cyweirio cyn ichi gyrraedd.
Gellir trefnu gwasanaeth cadw tŷ^ am dâl ychwanegol yr awr os cawn gadarnhad ymlaen llaw. Gallwn drefnu gwasanaeth gwarchod plant os cawn rybudd ymlaen llaw.
Mae croeso i westeion y bythynnod hunan arlwyo ddefnyddio adnoddau'r Gwesty. Bydd y pwll nofio yn cael ei gynhesu o fis Mai tan fis Medi. Mae bwyty'r gwesty a bar a bwyty Castell Deudraeth ar agor bob noson heblaw am eu cyfnod cau ym mis Ionawr. Fe'ch cynghorir i holi am le ym mwyty'r Gwesty ymlaen llaw os yn bosibl (rhif 01766 770000). Ar adegau bydd y Gwesty wedi ei neilltuo ar gyfer achlysuron preifat a hynny'n golygu na fydd y bwyty ar gael.
Mae brasserie CASTELL DEUDRAETH ar agor bob dydd. Croeso i blant. Byrddau yn yr ardd pan fo'r tywydd yn braf. Gwasanaeth bws mini o'r pentref. I gadw bwrdd ffoniwch 01766-772400.
Byddir yn cofrestru a
chodi'r agoriad yng Nghastell Deudraeth.
Mae'n bosib yn ystod eich arhosiad y bydd cynrychiolwyr o'r Adran Gynnal a Chadw angen mynediad i'r bwthyn i archwilio sustemau dŵr, trydan, larwm tân, diffoddwyr tân ac unrhyw faterion eraill a gofynnwn ichi ganiatáu mynediad iddynt i wneud y gwaith angenrheidiol yma.
Lawrlwythwch brisiau 2013 bythynnod hunanarlwy Portmeirion
