Skip to content

Belfedir

Belvedere
Cysgu 6
Cynllun Bwthyn

Ystafell Dwbl/Twin(Gwely Zip & Link)       Ystafell Ddwbl (llawr 1af)

Cegin - Ystafell Fwyta        Ystafell Dwbl (llawr gwaelod)

Dau ystafell cawod (un llawr isaf)            Stafell Ymolchi (llawr 1af) 

Oriel o luniau tu mewn a tu allan

 

Lleoliad

Wedi ei leoli yn ran uchaf y Pentref, gyda golygfeydd dros y traeth. Mae man parcio Belfedir y tu allan i'r drws ffrynt. Mae yna ddrws ochr o'r lolfa i deras bychain. Llwybr i ganol y Pentref lawr grisiau heibio Ty Pont.

Hanes

Tŷ Clasurol deulawr yw'r Belfedîr (1960, rhestrwyd yn Radd II yn 1971) gyda philastrau plaen a balconi dros gyntedd bwaog wedi'i osod yn ôl. Fe'i cynlluniwyd yn 1960 a'i godi yr un flwyddyn. Ar y darlun gwreiddiol fe'i gelwir yn Dŷ'r Ffynnon ond gan fod yr Angor a'r Ffynnon eisoes yn bodoli fe'i newidiodd yn Belfedîr, gan gyfiawnhau'r enw am fod ganddo "yr olygfa orau ym Mhortmeirion." O flaen y Belfedîr mae llwyfan golygfa balwstrad yn edrych dros y ffordd. Defnyddiwyd y tŷ gyntaf fel gwesty ond bellach mae'n fwthyn hunan ddarpar i chwech (llofft dau wely, llofft ddwbl a dwy lofft sengl [un ar y llawr gwaelod], dwy ystafell ymolchi, cegin fwyta ac ystafell fyw. O 1953 hyd at 1978 anogwyd Clough gan ei ferch Susan Williams-Ellis a'i fab-yng-nghyfraith Euan Cooper-Willis i fynd ati i orffen Portmeirion tra'n ymgymryd â'r cyfrifoldeb o redeg y lle a threfnu'r ariannu priodol. Y 1960au felly oedd un o gyfnodau mwyaf cynhyrchiol Clough ym Mhortmeirion gyda thros ugain o adeiladau wedi eu cwblhau ganddo.

Gosodwyd ffenestr liw gain o Gastell Deudraeth yng nghegin fwyta'r Belfedîr. Fe'i gwnaed ar gyfer David Williams Ysw., AS (1799-1869), twrne, tirfeddiannwr a'r Aelod Seneddol Rhyddfrydol cyntaf dros Feirionnydd. Prynodd David Williams Gastell Deudraeth, Bron Eryri oedd yr enw arno bryd hynny, yn 1841 ac ailgodi rhannau helaeth ohono fel plasty caerog. Ei arwyddair oedd Nid Da Onid Duw. Prynodd Clough Gastell Deudraeth a'r tir parc o'i gwmpas yn 1931 gan ymestyn ystad Portmeirion yr holl ffordd i'r briffordd ym Minffordd.


Back