Skip to content

Fila Wins Isaf

lower_villa_winch
Cysgu 3
Cynllun Bwthyn

Ystafell Wely a dau wely sengl                        Ystafell Sengl

Cegin Gali                                                       Ystafell molchi

Lolfa - Ystafell Fwyta                                       Gweld pdf o'r Cynllun Bwthyn

Lleoliad

Wedi ei leoli y tu cefn i Siantri, ar lawr isaf y adeilad Fila Wins, mae ganddo olygfeydd dros ganol y pentref. Mae grisiau yn arwain o'r Fila Wins i ganol y pentref heibio y tu blaen i'r Uncorn. Mae parcio y tu allan i'r bwthyn, gyda'r mynediad ar y llawr isaf.

Hanes

Lleolir y Fila Wins y tu ôl i Fwthyn y Siantri ac fe'i cysylltir iddo gan borth bwaog teils. Mae cynllun ar gyfer "Y Wins" wedi goroesi o Ebrill 1966 ynghyd â fersiwn diwygiedig dyddiedig Mehefin 1966. Yr oedd bwthyn ar gyfer Capten Winch, cymydog, wedi bod ar y gweill ers tro. Cynlluniwyd bwthyn stiwdio mawr ar gyfer Henry Winch, yn cynnwys stiwdio hanner crwn a theras to yn edrych dros yr aber. Efallai mai'r lleoliad gwreiddiol ar ei gyfer oedd y fan lle saif y heddiw  Tŷ Cregyn. Y fersiwn llai godidog hwn a godwyd yn y diwedd. Mae ynddo ddwy fflat hunan ddarpar i dri. Trompe l'oeil yw'r ffenestri crynion.

Cliciwch yma am fwy o lyniau o'r bythynod Hunan Arlwy


Back