Tŵr Telford
Cysgu 3
Cynllun Bwthyn
Ystafell Ddwbl Ystafell Sengl
Cegin - Ystafell Fwyta Ystafell Folchi
Lolfa Gweld pdf o Gynllun y Bwthyn
Lleoliad
Wedi ei leoli wrth Siop y Llong ar gefn y Sgwar Ganol. Mae ganddo ddreif breifat y tu cefn i'r bwthyn, gyda digonedd o le i barcio tua 3 o geir. Mae ganddo olygfeydd o ganol y pentref.
Hanes
Codwyd Tŵr Telffordd (1957, rhestrwyd yn Radd II yn 1971) i nodi dau ganmlwyddiant Thomas Telford. Adeilad stwco ar ffurf 'L' ydyw gyda ffenestr oriel yn ei waelod a tho estyll neu deils pren gyda ffiol ar ei frig. Mae ei du mewn yn hynod fanwl. Mae grisiau concrid yn ymdroelli i fyny i lofftydd y tŵr. Bwthyn hunan ddarpar i dri ydyw. Rhwng Telfford a'r Uncorn mae rhediad o risiau yn arwain trwy fwa wedi'i addurno gyda llew cerfiedig ac arfbais uncorn hyd nes y cyrhaeddir man gwag lle'r oedd Clough wedi bwriadu lleoli ei adeilad olaf ym Mhortmeirion, sef Tŵr y Llew. Dywedodd mewn cyfweliad gyda Peter Davey (11eg Chwefror 1973), "Yr wyf eisiau ychwanegu un tŵr arall rhwng Tŵr Telfford a'r Uncorn."
Cliciwch yma i weld
rhagor o lyniau o'r bythynod Hunan Arlwy
