Ty Clogwyn
Cysgu 5
Cynllun Bwthyn
Ystafell Ddwbl en suite Cegin
Ystafell en suite gyda dau wely Ystafell Sengl
Lolfa - Ystafell Fwyta Ystafell Molchi llawr isaf
Lleoliad
Ar y chwith ar ol y mynediad trwy'r tollborth. Mae man parcio y tu allan i fynediad y bwthyn, ac mae drws yn arwain o'r ystafell fyw i'r teras, gyda lle eistedd i edrych ar y olygfa dros yr aber.
Hanes
Cynlluniwyd Loj y Siantri (1969, rhestrwyd yn Radd II yn 1971), sef yr enw iawn ar y Dderbynfa, yn 1968 fel tŷ deulawr syml domestig ei gymeriad. Mae gan y ffenestri blaen ar y llawr cyntaf baenau siâp diemwnt sy'n nodweddiadol o waith Clough. Mae'r agoriad drws bwaog i'r chwith o'r canol gydag agoriad bwaog arall yn agor i'r llawr cyntaf ac un arall yn agor i iard yr ystad. Defnyddir Loj y Siantri fel y brif swyddfa archebu llety a derbyn ar gyfer y pentref. Defnyddir y llawr cyntaf ar gyfer swyddfeydd gweinyddol. Mae gan y pentref ddeugain o lofftydd en-suite, 14 yn y prif westy a 26 yn y pentref. Mae yma hefyd 17 o fythynnod hunan ddarpar i rhwng dau ac wyth o bobl.
Gyferbyn â'r Dderbynfa mae'r Tŷ Clogwyn (1969). Fe'i cynlluniwyd
yn Awst 1967 a hwn oedd adeilad mawr cwbl fanwl olaf Clough ym
Mhortmeirion. Yn Nhachwedd 1970 cynlluniwyd yr Anecs i'r Tŷ
Clogwyn. Fel nifer o'i adeiladau yn ystod y cyfnod hwn, tŷ yn yr
arddull neo-glasurol Georgaidd ydyw ond gyda sawl nodwedd sy'n
nodweddiadol o waith Clough, fel y ffenestri trompe l'oeil sydd
dros y drychiad gogleddol i gyd a thros hanner y drychiad
gorllewinol. Eu bwriad oedd rhoi preifatrwydd i ddeiliaid y bwthyn
tra hefyd yn nodwedd ddifyr ar wyneb oedd fel arall yn unffurf.
Bwthyn hunan ddarpar i bump yw'r Tŷ Clogwyn. Drws nesaf at y Tŷ
Clogwyn mae anecs yn cynnwys dwy lofft Gwesty (Tŷ Clogwyn Un a Thŷ
Clogwyn Dau) a ychwanegwyd at y prif dŷ yn 1973.
Fel yr Heliwr yr adwaenir y cerflun sydd y tu allan i'r Tŷ
Clogwyn, c. 1750 a Saesneg mae'n debyg. Mae ei arddull yn debyg
i Friga ond mae wedi erydu mor ddrwg fel y byddai ei
adnabod yn amhosibl. Yn ôl pob sôn bu'r Heliwr yn sefyll mewn man
agored iawn cyn ei symud i'r Tŷ Clogwyn yn 1969.
Ymhellach ymlaen ar hyd yr arfordir, mewn man a adwaenid unwaith fel y 'Man Plymio', yn y 1930au cododd Clough Gastell Henri ar ddull hen gaer chwâl. Gyda'i gei hanner crwn yn y bae tu hwnt, fe'i codwyd fel rhywle i ymdrochi a thorheulo.
Yn union islaw Tŷ Clogwyn ar ben y clogwyn y mae'r Rotunda neu'r Tŷ Cregyn (1960, rhestrwyd yn Radd II yn 1971) ac fe'i cyrhaeddir trwy ddringo grisiau o'r Gatws a thrwy borth bwaog llechi. Mae'n cynnwys llwyfan gwylio uwchlaw tŷ o gregyn. Codwyd yr adeilad unllawr hanner crwn hwn gyda'i do fflat a'i Astrolab canolog i ychwanegu elfen ddifyr at banorama Portmeirion o'r môr, gan hefyd ddarparu llwyfan gwylio godidog dros yr aber i gyd. O'r môr mae'n edrych fel byncer amddiffynnol neu wylfa i warchod yr arfordir. Mae gan y grotto cregyn islaw bump agoriad ac mae ei furiau a'i nenfwd wedi eu haddurno gydag amrywiaeth o gregyn lleol. Mae llwybr yn arwain o'r Tŷ Cregyn trwy'r coed ar ochr y clogwyn, i lawr grisiau eithaf serth a thrwy sawl logia hyd nes cyrhaeddir llwybr yr arfordir a'r Cwch Cerrig islaw.
Cliciwch yma i weld rhagor lyniau o fythynod Hunan Arlwy
