Castell Deudraeth
NODWCH YN GAREDIG FE FYDD CASTELL DEUDRAETH AR GAU RHWNG 7FED IONAWR A 7 CHWEFROR 2013 AM GWAITH CYNNAL A CHADW HANFODOL
Mae'n debyg mai bwthyn o'r 18fed ganrif yw cnewyllyn Castell
Deudraeth (18fed g., estyniad 1850au; rhestrwyd yn Radd II), a
gafodd ei ehangu ar ddechrau'r 19fed ganrif yn blasty
sylweddol a adwaenid fel
Bron Eryri. Yn 1841 fe'i prynwyd gan David Williams (1799-1869),
twrne, tirfeddiannwr a'r Aelod Seneddol Rhyddfrydol cyntaf dros
Feirionnydd. Yn ystod y 1850au, aeth ati i'w ehangu a'i droi yn
blasty caerog a'i ail-enwi yn Gastell Deudraeth. Daw'r enw hwn o'r
Castell Deudraeth gwreiddiol a godwyd tua 1175 gan Gruffydd ap
Cynan ab Owain Gwynedd ar graig uwchlaw'r aber sydd erbyn heddiw yn
edrych dros bentref Portmeirion.
Yr oedd pensaer David Williams, na wyddom ei enw, yn amlwg wedi'i
ddylanwadu'n gryf gan dai castell John Nash. Mae'r cynllun mewn
arddull fila gyda nifer fechan o brif ystafelloedd, a'r ceginau yn
ffurfio rhan o ffrynt caerog a thyrog yr adeilad. Mae'r nodweddion
pensaernïol Gothig a Thuduraidd yn cynnwys portsh bwaog a drysau
llithro haearn gyr tebyg i borthcwlis, a lle tân barwnaidd
(dde).
Prynodd Clough y Castell yn 1931 gan
Ymddiriedolwyr ystad ei ewythr Syr Osmond Williams, Bt., AS,
Arglwydd Raglaw a Chwnstabl Castell Harlech. Ychwanegodd y pryniant
hwn yn sylweddol at Ystad Portmeirion gan ei fod yn cynnwys
coedlannau a thir parc a derfynai ar ei diroedd presennol, ynghyd
â'r brif lôn fynediad. Yr oedd gan Clough ddiddordeb yn y Castell
fel ffynhonnell botensial o ystafelloedd ar gyfer ei bentref, fel a
eglurai yn ail argraffiad ei Lyfryn (1932): "....mae'r dwsin neu
fwy o lofftydd da sydd ynddo yn demtasiwn i dafarnwr sy'n brin o le
yn barhaus, gyda lle cyffyrddus i gryn ugain o westeion ychwanegol
prin wyth gan llath i ffwrdd." Ond trwy fod y rhyfel wedi dechrau a
thân yn ei gartref ei hun, a bod yn rhaid iddo orffen Portmeirion
yn anad dim, bu'n rhaid i Clough anghofio am ei uchelgais o
integreiddio Castell Deudraeth o fewn y pentref. Ar ôl cyfnod byr
fel rhan o'r gwesty, rhwng 1940 a 1957 fe'i cymerwyd drosodd gan
ysgol breifat i blant bach ac, o hynny ymlaen, llety ar gyfer y
staff ydoedd.
Elusen
gofrestredig o'r enw Ail Sefydliad Portmeirion yw perchennog
Portmeirion. Yr oedd consyrn Clough am gadwraeth yn amlwg yn ei
adeiladau ei hun a chredai, trwy i Elusen fod yn berchen arnynt, y
byddai'n helpu i sicrhau eu cadw at fwynhad cenedlaethau'r dyfodol.
Yn 1973 rhestrwyd yr adeiladau ym Mhortmeirion yn Radd II ac, yn
1993, dynodwyd Portmeirion yn Ardal Gadwraeth. Mae caniatâd
cynllunio a chaniatâd adeilad rhestredig wedi eu rhoi i adfer
Castell Deudraeth a'i erddi yn ôl y cysyniad gwreiddiol yr oedd gan
Clough ar ei gyfer yn 1932.
Cefnogir y prosiect gan Gronfa'r Loteri Dreftadaeth a hefyd gan
Gronfa Datblygu Rhanbarthau Ewrop a Bwrdd Croeso Cymru, ynghyd ag
Ail Ymddiriedolaeth Portmeirion a'i denant, Portmeirion Cyf.
Mae'r Castell wedi'i leoli ar dir Portmeirion, ar safle gwastad gyda'r ddaear yn codi y tu ôl iddo ac yn disgyn o'i flaen rhwng dau aber. Cyrhaeddir yr adeilad ar hyd y brif lôn trwy ystad Portmeirion. Lleolir y cyfan gyda iard raean i un ochr a lawntiau o'i flaen sy'n cysylltu i'r ardd ffurfiol i'r gorllewin.
