Stafell Dwbl neu Twin yn y Pentref
Ty Pont 1
Cynlluniwyd yn 1958 yn yr arddull glasurol i bontio'r ffordd islaw'r Gromen. Mae Ty Pont Un ar y llawr gwaelod ac mae'n cynnwys llofft ddwbl gyda baddondy a cheir ohoni olygfa o Sgwâr y Batri. Eir i'r llofft i lawr rhediad o risiau cerrig rhwng y Gromen a'r Belfedîr. Adnoddau'n cynnwys teledu, ffôn ac offer gwneud paned.
Ty Pont 2
Mae Ty Pont Dau ar y llawr gwaelod ac mae'n cynnwys llofft ddwbl gyda baddondy a cheir ohoni olygfa o Sgwâr y Batri i'r Gorllewin a'r Traeth Bach i'r De. Eir i'r llofft i lawr rhediad o risiau cerrig o'r lle parcio wrth gefn y Gromen. Mae desg dderw yn y llofft hon gyda draig wedi ei naddu'n gywrain arni. Adnoddau'n cynnwys teledu, ffôn ac offer gwneud paned.
Ty Clogwyn 1
Cynlluniwyd yr estyniad yma i brif adeilad Ty Clogwyn yn Nhachwedd
1970 a'i godi yn 1971. Mae Ty Clogwyn Un yn llofft ddwbl gyda
baddondy ac mae wedi ei lleoli ar y llawr gwaelod yn agos i
fynedfa'r pentref. Ceir ohoni olygfa draw am y Traeth Bach.
Adnoddau'n cynnwys teledu, ffôn ac offer gwneud paned.
Ty Clogwyn 2
Mae Ty Clogwyn Dau yn llofft ddwbl gyda baddondy ac mae wedi ei
lleoli ar y llawr gwaelod yn agos i fynedfa'r pentref, a'r drws
nesaf i Dy Clogwyn Un. Ceir ohoni olygfa draw am y Traeth Bach. Mae
lle parcio gerllaw. Adnoddau'n cynnwys teledu, ffôn ac offer gwneud
paned.
Gellir addasu'r llofft hon i fod â gwely dwbl neu ddau wely sengl os rhowch wybod inni ymlaen llaw; gwely dwbl yw'r drefn safonol oni ddywedir yn wahanol.
Neifion 1
Llofft ddwbl fawr gyda baddondy. Eir iddi i fyny grisiau cerrig o
ganol y pentref a cheir ohoni olygfa o'r pentref o'r ddwy ochr.
Defnyddiwyd cynlluniau Designers Guild yma ynghyd â bwrdd a charped
wedi eu cynllunio gan Susan Williams-Ellis. Adnoddau'n cynnwys
teledu, ffôn, oergell ac offer gwneud paned.
Cyfarchfa 1
Eir i'r llofft ddwbl a baddondy yma i fyny hanner dwsin o risiau o
odre'r Bwa Buddugoliaeth. Ceir ohoni olygfa o ganol y pentref.
Addurnwyd y llofft gydag arddull syml, wledig. Llofft stabl oedd
hon yn yr hen amser. Adnoddau'n cynnwys teledu, ffôn ac offer
gwneud paned.
Cyfarchfa 2
Llofft ddwbl drws nesaf i Gyfarchfa Un, i fyny hanner dwsin o
risiau o odre'r Bwa Buddugoliaeth. Ceir ohoni olygfa o ganol y
pentref. Addurnwyd y llofft gydag arddull syml, wledig. Llofft
stabl oedd hon yn yr hen amser. Adnoddau'n cynnwys teledu, ffôn ac
offer gwneud paned.
Y Gromen
Codwyd y Gromen yn 1959. Mae'r llofft hon wedi ei lleoli yng nghefn
y Gromen, ar y gwastad, gyda mynedfa uniongyrchol o'r lle parcio.
Ceir golygfa ohono o Sgwâr y Batri a'r Traeth Bach. Mae'r ystafell
ddwbl hon a'r ystafell ymolchi wedi eu haddasu ar gyfer rhai ag
anawsterau cerdded a defnyddwyr cadeiriau olwyn.
Gellir addasu'r llofft hon i fod â gwely dwbl neu ddau wely sengl os rhowch wybod inni ymlaen llaw; gwely dwbl yw'r drefn safonol oni ddywedir yn wahanol.
