Swît Foethus Ddwbl neu Ddau Wely yn y Pentref
Angor 2
Swît foethus yw Angor Dau gyda baddondy a lolfa. Ceir ohoni
olygfa o'r pwll nofio a'r Traeth Bach. Mae hon ar yr un lefel a
Ffynnon Dau drws nesaf. Mae'r mynediad naill ai i lawr y grisiau
cerrig o'r ffordd neu i fyny'r grisiau cerrig o'r lle parcio ceir
yn y gwaelod. Adnoddau'n cynnwys teledu, ffôn, oergell ac offer
gwneud paned.
Ffynnon 1
Mae Ffynnon Un, neu'r Ffynnon Isaf, yn swît foethus gyda baddondy a lolfa. Ceir ohoni olygfa o'r pwll nofio a'r Traeth Bach. Mae hon wedi ei chodi uwchben y llawr gwaelod ac eir iddi i fyny rhediad byr o risiau cerrig o'r llawr neu i lawr y grisiau o Ffynnon Dau. Adnoddau'n cynnwys teledu, ffôn, oergell ac offer gwneud paned.
Mae'r llofftyd yma yn cael ei gosod fel rhai DWBL. Os byddai'n well gennych ddau wely sengl yn lle gwely dwbl a wnewch chi roi nodi hynny wrth ichi archebu'r llety os gwelwch yn dda.
