Ystafell Ddwbl Safonol yn y Gwesty
Mae llofftydd dwbl safonol prif dŷ y gwesty wedi eu lleoli ar y llawr cyntaf a'r ail lawr yn yr estyniad gorllewinol a gododd Clough Williams-Ellis yn 1926; maent i gyd â golygfa dros y Traeth Bach a bryniau Meirionnydd. Mae lifft i'r llawr cyntaf ond dim ond grisiau sydd i'r ail lawr. Mae gan bob un o'r llofftydd faddondy gyda bath a chawod. Yn y llofftydd mae set deledu sgrin fflat, ffôn, cysylltiad band-eang diwifr, cyfleusterau te a choffi. Rhestrir y llofftydd unigol isod. Os hoffech neilltuo llofft benodol mi wnawn ein gorau i sicrhau'ch dewis ond ni allwn warantu hyn gan ei fod yn dibynnu ar yr hyn sydd ar gael.
Tŷ 8
Lleolir Tŷ Wyth ar y llawr cyntaf ym mhen draw'r gwesty yn yr estyniad a godwyd yn 1926 ar yr ochr orllewinol. Mae hon yn llofft ganolradd gyda dau wely sengl, baddondy a golygfa o'r traeth a'r mynyddoedd. Mae'r diwyg yn flodeuog gyda phapur wal trelis a theils bach gwynion plaen yn y baddondy.
Tŷ 9
Lleolir Tŷ Naw ar y llawr cyntaf ym mhen draw'r gwesty yn yr estyniad gorllewinol. Mae hon yn llofft ganolradd ddwbl gyda baddondy a golygfa o'r traeth a'r mynyddoedd. Mae'r diwyg yn forwrol gyda streipiau glas a gwyn a theils o'r un lliw yn arddull Delpht ond gyda llun Portmeirion arnynt yn y baddondy.
Tŷ 10
Lleolir Tŷ Deg ar yr ail lawr yn estyniad gorllewinol y prif adeilad. Mae hon yn llofft ganolradd gyda dau wely sengl, baddondy a golygfa o'r traeth a'r mynyddoedd. Lliwiau glas a gwyn sydd amlycaf yn hon a hynny'n adlewyrchu agosrwydd y traeth sy'n cychwyn yn union o dan y ffenest.
Tŷ 11
Lleolir Tŷ Unarddeg ar yr ail lawr yn estyniad gorllewinol y prif adeilad. Mae hon yn llofft ganolradd ddwbl gyda baddondy a golygfa o'r traeth a'r mynyddoedd. Mae'r diwyg ar thema gwrychoedd addurniadol gyda gwely haearn gwyn a theils bychain gwynion yn y baddondy.
Tŷ 12
Lleolir Tŷ Deuddeg ar yr ail lawr yn estyniad gorllewinol y prif adeilad. Mae hon yn llofft ganolradd ddwbl gyda baddondy a golygfa o'r traeth a'r mynyddoedd. Diwyg gwledig sydd i'r llofft hon gyda gwely pres a baddondy gwyn.
Tŷ 14
Lleolir Tŷ Pedwar-ar-ddeg ar yr ail lawr yn estyniad gorllewinol y prif adeilad. Mae hon yn llofft ganolradd ddwbl gyda baddondy a golygfa o'r traeth a'r mynyddoedd. Mae thema fotanegol i'r llofft hon ac mae ynddi wely cefn uchel haearn o Iwerddon.
