Ystafell Deulu yn y Pentref
Mae gennym un ystafell deulu sy'n cysgu 3, wele isod am fanylion.
Llety'r Prior
Codwyd Llety'r Prior yn 1929 a'i enwi felly ar ôl Prior Ynys Bŷr a ddaeth acw i aros ar ôl ei agor. Llofft gyda dau wely sengl a baddondy ac un llofft sengl ar wahân sydd yma gyda mynediad i fyny rhediad o risiau o Sgwâr y Batri. Golygfa dros y Traeth Bach.
