Brasserie Castell Deudraeth
Bydd cinio ar gael o hanner dydd tan 2.30 y pnawn bob dydd. Bydd coffi, te a brechdannau ar gael drwy'r pnawn. Bydd cinio nos ar gael o 6.30 gyda'r nos tan 9.30 o'r gloch bob noson.
Does dim rhaid ichi gadw bwrdd ymlaen llaw, ond mae
croeso ichi wneud hynny os ydych chi isio bod yn siwr o'ch lle ar
adegau prysur (yn ystod gwyliau ysgol, ar bnawniau Sul, neu
nosweithiau Gwener a Sadwrn). Rhowch alwad i'r Castell ar 01766
772400. Os ydach chi'n cyrraedd ar hap a damwain mi wnawn ni wastad
ein gorau glas i gael lle ichi ond wrth gwrs ar adegau gall hyn
olygu rhywfaint o oedi.
Bydd Prif Gogydd y Castell, Mark Muscroft yn seilio'u fwydlen ar
gynnyrch ffres lleol gan gynnwys cimychiaid, crancod a chregyn
bylchog o Ben Llyn, wystrys o arfordir Sir Fon, cig eidion o Ben
Llyn a chig oen o ffermydd Penllyn o gwmpas y Bala.
Mae'r
awyrgylch yn anffurfiol gyda naws gyfoes gyda dau fwyty, y naill ar
gyfer ysmygwyr a'r llall yn ddim ysmygu. Pan fydd y tywydd yn
ffafriol gellir dewis bwyta yn yr ardd.
Mae dros 40 o winoedd ar gael fesul gwydraid o'r rhestr o gant o winoedd rhesymol eu pris sy'n cynnwys Siampaen Portmeirion. Mae yna restr coctel helaeth hefyd a choffi o'r peiriant espresso.
Bwydlen Canol Dydd Castell Deudraeth

