Caffi Glas
Ar 2il Ebrill 2007 agorwyd bwyty diweddaraf Portmeirion,
Caffi Glas. Mae hwn yn gaffi Eidalaidd sy'n cynnig detholiad o
bitsas, paninis a chacennau. Mae ganddo le i 30 tu mewn a byrddau
tu allan ar y teras gyferbyn â Siop y Llong. Mae'r caffi ar agor o
10.00 tan 17.00 ond yn cau bob dydd Iau a dydd Gwener o fis
Tachwedd tan fis Mawrth. Mae bwyd poeth yn cael ei weini rhwng
11.30 a 16.30.
Mae'r pitsas a'r cynigion eraill yn cael eu paratoi ar y safle a'u
coginio yn y popty pitsas yn y gegin agored. Y nod yw cynnig bwyd o
safon am brisiau rhesymol gyda gwasanaeth effeithiol mewn
amwyrgylch
deniadol a chyfforddus.
Mae'r bwyd yn gweddu gyda thema 'Eidalaidd' Portmeirion ac yn
adleisio'r hen fwyty Eidalaidd 'Y Gyfarchfa' oedd yn arfer bod yn
Siop y Llong erstalwm. Mae yna beiriant espresso, detholiad o
winoedd o'r Eidal, sudd oren ffres a dewis o fwydydd i blant.
Gellir llogi'r caffi ar gyfer partion preifat, partion penblwydd ac
ati, a thrwy drefniant gellir llogi'r lle gyda'r nos hefyd.
Hen gwt sinc gyda lloriau ar dair lefel oedd yr adeilad a'i enw
oedd "Garej y Sipswn". Fe'i codwyd gan Clough Williams-Ellis yn y
1950au fel garej ar gyfer ceir gwesteion ac wedyn bu'n yn storfa i
offer gerddi. Roedd y cwt wedi ei gofrestru ar Raddfa II,
gan
CADW fel cwt o ddiddordeb pensaerniol a bu'n rhaid cael caniatâd
adeilad rhestredig i'w addasu'n gaffi. Canfuwyd nad oedd sylfeini
addas oddi tano a bu'n rhaid cloddio tunelli o bridd corslyd er
mwyn gosod sylfaen ac i lefelu'r llawr.
Rhif ffôn Caffi Glas yw 01766 772340 a'r ebost ydi
caffiglas@portmeirion-village.com
Bwydlen
Caffi Glas
