Caffi Sgwâr
Mae Caffi'r Sgwar yn siop goffi ar lawr gwaelod y Tollty ar
Sgwar y Batri.
Mae'r Tollty (1929; rhestrwyd yn Radd II yn 1971) yn adeilad o
gymeriad hynafol gyda'i loriau
uwch bargodol a'i estyll
tywydd. Yn y cefn, i gyfeiriad y môr, mae twr gwylio ar y llawr
uchaf un. Fe'i disgrifiwyd gan Clough fel "yr adeilad estyll duon
yna, a'i olwg braidd Norwyaidd". Dyma un o'r adeiladau cyntaf a
godwyd fel rhan o grwp o gwmpas Sgwâr Staff Caffi'r Sgwary Batri.
Mae wedi ei addurno gyda phlaciau, clychau ac arwyddion gan gynnwys
cerflun pren o San Pedr wedi'i beintio ar falconi gyda chanopi
bychan uwch ei ben (byddai wedi bod yn fwy oni bai am gamgymeriad
yn y ffowndri ond tybiai Clough na fyddai ots gan San Pedr). Yr
oedd y gloch yn galw ar geidwad y porth a gellid gostwng y polyn
glas a gwyn i wahardd a rhoi mynediad - yn 1929 dyma derfyn allanol
y pentref.
Yr addurn hynotaf ar y Tollty yw'r torlun dafad gan Susan
Williams-Ellis. Gofynnodd Clough iddi
ei gynllunio ar gyfer y
Siop Wlân Gymreig. Mae darlun hanner graddfa gwreiddiol Clough,
sy'n dyddio'n ôl i Fawrth 1957, ynghyd â gwaith graddfa lawn Susan,
ill dau wedi goroesi ac erbyn heddiw i'w gweld yn Neuadd y Dre.
Peintiodd nifer o furluniau i'w thad, un o'r rhai mwyaf nodedig
yw'r Gyfarchfa ynghyd â'r un ar Lety'r Foneddiges a'r plac ar
Neifion. Cynlluniodd nifer o'r defnyddiau a'r carpedi a ddefnyddir
yn y pentref a gwaith Susan yw'r holl lestri a ddefnyddir ym
Mhortmeirion.
Codwyd Tollty yn 1928 yn yr arddull Celf a Chrefft sy'n nodweddu
cyfnod cynnar Portmeirion. Hwn oedd tollborth gwreiddiol y pentref
ar gyrion Sgwâr y Batri, llecyn bach cysgodol gyda cherrig crynion
ar lawr, ffynnon flodau yn y canol a siopau bychain oddi
amgylch.
Mae Caffi'r Sgwar ar agor o'r 1 Ebrill i'r 31 Hydref ac ar agor
tan 7 o'r gloch y nos yn ystod gwyliau ysgol.
Gweler hefyd:
