Teras a bwyty y Gwesty
Mae ein Prif Gogydd Mark Threadgill yn arwain tim o 14 yng Ngwesty Portmeirion. Yn wreddiol o Gricieth mae Mark wedi treulio blynyddoedd yn perffeithio'i grefft mewn ceginnau o safon ym Mhrofens yn ne Ffrainc. Mae'r bwyty wedi ennill dwy rosette gan yr AA yn ddiweddar am safon y bwyd.
Mae gennym fwyty lolfa a theras ar gael amser cinio neu fwydlen cinio tri chwrs.
Dim ond cynnyrch ffres lleol sy'n cael ei ddefnyddio gan y gegin er mwyn cynhyrchu bwyd o'r safon uchaf.
Bydd y fwydlen yn newid bob dydd ar gyfer cinio nos. Ar gyfer cinio nos cynigir o leiaf chwech dewis ar gyfer y cwrs cyntaf ac wyth ar gyfer y prif gwrs a'r pwdin.
Nid oes gennym unrhyw reolau ynglyn â gwisg yn y bwyty. Gwisgwch fel y teimlwch sy'n gweddu i'r achlysur.
Rhif ffôn uniongyrchol y gwesy yw 01766 772440 neu ebostiwchgwesty@portmeirion-village.com

