Cael hyd i Bortmeirion
Croeso i bentref Portmeirion
Un o atyniadau ymwelwyr mwyaf poblogaidd Cymru. Bydd dros
200,000 o ymwelwyr yn ymweld bob blwyddyn.
Lle perffaith am ddiwrnod allan gyda'r teulu - parcio am ddim, teithiau tywys am ddim, sioe glyweled, bwytai, siopau, gerddi, traethau a trên gwyllt.
O amgylch y pentref mae 70 acer o goedwig ecsotig gyda llwybrau
coedwigol a arfordiriol hawdd i'w dilyn.
Ar agor bob dydd o 9.30 y bore tan 7.30 yr hwyr. Heblaw am
ddiwrnod y Nadolig
Nodwch cwn arwain yn unig a ganieteir yn y Pentref
Edrychwn ymlaen i'ch Croesawu
Gyda Car
Os yn defnyddio Sat Nav defnyddiwch LL48 6ER
Trefnydd Teithiau'r AA - teipiwch Portmeirion fel cyrchfan a ar
wefan yr AA : Theaa.com
O Fanceinion: ewch ar yr M56 (Gorllewin) ar gyfer y A550. Dilyn
arwyddion am yr A55 a
Gogledd Cymru. Dilyn yr A55 cyn
belled â Chyffordd Llandundo (mae'n gynt ffordd hyn rwan wedi iddyn
nhw orffan y gwaith rhwng Betws a Stiniog). Ewch drwy Flaenau
Ffestiniog am Borthmadog nes cyrraedd y A487 ym Maentwrg lle dach
chi'n troi i'r dde am Borthmadog eto. Mae troead Portmeirion ar
sgwar Minffordd ryw filltir a hanner o sgwar Penrhyndeudraeth.
Milltir o ddreif a dach chi acw. 100 milltir, tua 2 awr a
hanner.
O Faes Awyr Birmingham a'r NEC: ewch ar yr M6 i'r Gogledd. Ar ol
cyffordd 10 ewch am yr M54 a dirwyn ymlaen arni nes iddi droi'n A5
a dilyn honno yn ei thro hebiio Corwen nes cyrraedd goleuadau'r
Druids lle dach chi'n troi ar yr A494 am Bala. Yn y Bala trowch i'r
dde ar yr A4212 am Traws lle trowch i'r dde ar am Borthmadog. Mae
troead Portmeirion ar sgwar Minffordd ryw filltir a hanner o sgwar
Penrhyndeudraeth. Milltir o ddreif a dach chi acw. 100 milltir, tua
2 awr a hanner.
O Lundain (Llwyn y Bugail): Cymrwch yr M40 wedyn yr M6 am
Birmingham (ar y dollffordd os ydi'r hen draffordd yn dagfa) wedyn
dilyn arwyddion yr M54. Ar ol cyffordd 10 ewch am yr M54 a
dirwyn ymlaen arni nes
iddi droi'n A5 a dilyn honno yn ei thro hebiio Corwen nes cyrraedd
goleuadau'r Druids lle dach chi'n troi ar yr A494 am Bala. Yn y
Bala trowch i'r dde ar yr A4212 am Traws lle trowch i'r dde ar am
Borthmadog. Mae troead Portmeirion ar sgwar Minffordd ryw filltir a
hanner o sgwar Penrhyndeudraeth. Milltir o ddreif a dach chi acw.
240 milltir, tua 4 1/2 awr
O Gaerdydd: Dilyn yr A470 i Trawsfynydd lle trowch i'r dde ar am
Borthmadog. Mae troiad Portmeirion ar sgwar Minffordd ryw filltir a
hanner o sgwar Penrhyndeudraeth. Milltir o ddreif a dach chi acw.
150 milltir, tua 3 awr a hanner.
Ar Droed
Mae llwybr troed o bentre Minffordd, heibio Castell Deudraeth ar
ar hyd ochr Cae Mawr a ddaw
a chi at y tollborth maes
o law. Mae yma lwybrau'n gwau drwy'r Gwyllt hefyd, 20 milltir
ohonyn nhw, a milltiroedd o arfordiroedd i'w crwydor felly dewch
a'ch sgidiau cryfion
Efo Tacsi
Tacsis B & M, Penrhyndeudraeth 01766 770851
Gwasanaeth Tacsi Cricieth, Cricieth 01766 522726
Tacsis Dukes, Porthmadog 01766 514799
Tacsis Huw, Llanwnda, Caernarfon 01286 676767
Ar Fws
Mae bysys bach y wlad yn galw heibio unwaith yn y pedwar amser ar
eu cylchdaith o Borthmadog i Llanfrothen ac yn ôl. Chwiliwch amdani
ar safle we Cyngor Gwynedd yma: 99B
Porthmadog-Portmeirion/Rhyd
Ar y Tren
Amserlen trenau: Euston - Bangor
Mae trenau Virgin Trains yn gallu cyrraedd Bangor o Euston,
Llundain mewn tair awr a hanner. Chwarter awr yn gynt i Gyffordd
Llandudno. Gallwn drefnu i'ch codi o'r orsaf os cawn wybod digon
ymlaen llaw. Fel arall ewch ymlaen ar y tren o Gyffordd Llandudno i
Flaenau Ffestiniog. Mi wnawn ni drefnu i'ch cwrdd yno gyda rhybudd,
fel arall mae yna siawns y gallech ddal y tren bach am Borthmadog
sy'n stopio'n Minffordd. Rhowch wybod inni ar 01766 - 770000 os
ydach chi'n dod yma i aros ac isio pas.
Mae'r lein bach Rheilffordd Ffestiniog yn trafeilio o
Flaenau Ffestiniog i Borthmadog, gyda stesion yn Minffordd, ryw
filltir a hanner o Bortmeirion. Rhowch wybod inni ar 01766 - 770000
os ydach chi'n dod yma i aros ac isio pas, ac mi drefnwn i'ch codi
o'r stesion.
Mae lein y Cambrian Coast yn pasio trwy Minffordd hefyd ar
ei thaith i Bwllheli a diwedd y lein. Mae hon yn cyrraedd cyn
belled ag Aberystwyth ac Amwythig heibio Cyffordd Dyfi ger
Machynlleth. Rhowch wybod inni ar 01766 - 770000 os ydach chi'n dod
yma i aros ac isio pas.
Mewn Awyren
Maes Awyr Manceinion (Manchester International
Airport) sydd efo'r nifer mwyaf o awrenau'n ei wasanaethu o holl
faesydd awyr y rhanbarth honno o Loegr. Ond mae Maes
Awyr Birmingham a maes awyr Lerpwl (John Lennon Airport,) yn
brysur hefyd. Os ydach chi isio glanio yng Nghymru dewch i Faes Awyr
Rhyngwladol Caerdydd (Cardiff Wales Internatinal Airport).
Gallwch logi car ym mhob maes awyr, neu mi drefnwn gyrrwr i'ch
cyfarch am bris ychwanegol.
Hofrennydd Breifat

Mae gennym lanfa hofrenydd yma. GRID REF SH59283764. Rhowch wybod inni ddiwrnod
ymlaen llaw os medrwch rhag ofn fod yna stoc i'w symud o'r cae. Dim rhaid ichi dalu am lanio yma os ydach chi'n aros. Cysylltwch efo Meurig Jones i drefnu glanio ar meurig@portmeirion-village.com , rhif ffôn 01766 772306 neu symudol 07795294825
PORTMEIRION CYF
Minffordd, Penrhyndeudraeth
Gwynedd
LL48 6ER
Cymru/Wales.
01766 772311 (Tollborth)
01766 770000 (Derbynfa'r Gwesty)
Ebost : toll@portmeirion-village.com
