Skip to content

GWYL RHIF 6 YN CYHOEDDI LEINYP Y LLWYFAN CYMRAEG

FN6Llwyth o FANDIAU cymraeg yn ymuno gyda Beck a London Grammar ar gyfer gwyl Rhif 6.

Geraint Jarman, Candelas, Gai Toms, Y Pencadlys, Gwenno, Matt Berry, Jane Weaver, Plank, Emma Tricca, The Wharves, Yr Ods, Casi, Sŵnami a llawer mwy o fandiau wedi eu cadarnhau ar gyfer Llwyfan Cymru a'r byd.


Mae Gŵyl Rhif 6 yn falch i gyhoeddi prif artistiaid y llwyfan Cymraeg a rhyngwladol ar gyfer eleni.

 

Mae'r ŵyl wedi cydweithio gydag arbenigwyr ar y Sin Roc yng Nghymru fel Huw Stephens a John Rostron o Ŵyl Sŵn Caerdydd a'r rheini'n cyflwyno cymysgedd diddorol o artistiaid amrywiol. Ymysg yr uchafbwyntiau nos Wener fydd y gantores a'r gyflwynwraig Gwenno a'r canwr gwerin Chris Jones heb sôn am Candelas, Gai Toms, Y Pencadlys, Kizzy Crawford ac wrth gwrs Ed Holden sef y rapiwr Mr Phormula, yntau newydd ddychwelyd o'i daith yn Efrog Newydd.

Mae'r llwyfan Rhyngwladol ar y nos Sadwrn yn cael ei drefnu gan Andy Votel a'r DJs Finders Keepers a'r rheini'n cyflwyno rhaglen amrywiol sy'n cynnwys Edan o ddinas Boston, Laetitia Sadier sef prif leisydd Stereolab, ac un o sêr Ynys Wair, H. Hawkline. Ar ben hynny bydd Plank, Tendr Prey a The Wharves wrthi a chantores o Fanceinion o'r enw Jane Weaver a Matt Berry yn rhannu'i dalentau gyda'r gynulleidfa.

Uchafbwynt yr wyl, fel y llynedd, fydd y nos Sul pan fydd rhai o brif artistiaid Cymru ar y llwyfan dan gyfarwyddwyd Nyth Gwydir a'r rheini'n cynnwys Casi, sef enillydd Cân y Flwyddyn BBC Cymru, yr anfarwol Geraint Jarman a'i fand, Yr Ods, Cian Ciaran o'r Super Furrys, Swnami, Plyci a DJs Nyth.

Meddai Huw Stephens o Sŵn : "Dwi wrth fy modd i fod yn rhan o'r wyl eleni gyda'r fath leinyp anhygoel o gerddorion Cymreig. Mae Geraint Jarman wedi bod yn ddylanwad mawr ers degawdau ac yn ysbrydoliaeth i sawl cenhedlaeth; mae o'n fardd, mae o'n chwalu ffiniau, mae o'n hybu'r sin roc y to ifanc. A dyna'r Ods, mae'r rhain wedi gigio sawl gwaith i Sŵn ac wedi hen ennill eu plwyf fel un o fandiau ifanc gorau Cymru."

<DIWEDD>

 

 


Nodiadau i Olygyddion :

Dyddiadau 5-7 Medi 2014

Perfformiadau Byw

Beck / London Grammar / Bonobo/ Neneh Cherry with Rocketnumbernine/ Steve Mason/ Martha & the Vandellas/ Jimi Goodwin/ Temples/ James Holden/ Los Campesinos!/ John Wizzards/ Cherry Ghost/ Alexis Taylor/ East India Youth/ Radiophonic Workshop/ The Rails/ All We Are/ Arthur Beatrice/ Childhood/ Telegram/ Côr Meibion ​​y Brythoniaid
DJs

Julio Bashmore/ Andrew Weatherall/ Danny Krivit/ Micheal Mayer/ Justin Robertson/ Ewan Pearson/ Prosumer/ Ashley Beedle/ Awesome Tapes from Arfica/ Unabombers/ Eagles for Hands/ Joe Boyd/ Low Life/ Aficionado/ Amp + Deck/ Sophie Lloyd/ Disco Mums/ Camino Del Sol




Y Celfyddydau a Diwylliant
 Charlie Higson / Dylan Thomas tribute feat. Rhys Ifans, Kevin Allen, Murray Lachlan Young / Julian Cope / Dom Joly / Jonathan Meades / Gavin Turk / Andrew Weatherall / Shlomo / Jay Rayner / Joe Boyd / Steve Mason / Letters Live featuring very special guests / Tim Burgess presents Tim Peaks / Stuart Maconie / Simon Day / John Shuttleworth / Matt Berry / Sam Lee / Katy Brand / Sara Pascoe / Robert Llewellyn / Jon Savage / Salena Godden / Stephen Morris / Bez's Question Time / Harry Leslie Smith / Mike Garry / Viv Albertine / Luke Haines / Gareth Roberts / Matt Everitt / Bonehead / Jonny Owen / Will Wiles / Shaun Usher / J P Bean / Chris Yates / William Atkins / Zoe Pilger / David Bramwell / Lloyd Bradley / Patience Agbabi / Tom Hodgkinson / Will Hodgkinson / Dorian Lynskey / Emma Jane Unsworth / Jesca Hoop / Luke Wright / Ted Kessler presents My Old Man / Philip Hoare / Richard Benson / Emma Warren / Trevor Cox / Evie Wyld / Rachel Newsome / Mark Vernon / John Mitchinson / James Endeacott / Richard Bray / Daniel Rachel / Kerry Daynes / Oliver Broadbent / Professor David Nutt / Helen Bagnall / Juliet Russell / Tony Husband's Cartoon Confessions / Gypsies of Bohemia / The Idler Academy / The Quietus stage / The No.6 Salon / Louder Than Words / Dream Themes, Côr Meibion y Brythoniaid


Joe Duddell, Cyfansoddwr preswyl

Cymru a'r Byd
Candelas / Gai Toms / Mr Phormula / Y Pencadlys / Gwenno / Chris Jones / Kizzy Crawford / Edan / Matt Berry / Laetitia Sadler (Stereolab) / Jane Weaver / H. Hawkline / Plank / Tender Prey / Emma Tricca / The Wharves / Finder Keepers DJs / Geraint Jarman / Yr Ods / Cian Ciaran / Swnami / Casi / Plyci / Nyth DJ's


Comedi
 Josh Widdicombe / Henning Wehn / Robin Ince / Tony Law / Sara pascoe / Phil Kay / James Acaster / Marcel Lucont / Vikki Stone / John Robins / Suzi Ruffell / Alfie Brown / Ed gamble /Mat Ewins / Nish Kumar /Hayley Ellis

 

Ffilm

 

Festival premiere of The Living Room by Shane Meadows with Q&A and live set from Gavin Clark / Nowhere is Home (festival premiere) with Q&A with Kevin Rowlands and Jimmy Paterson (Dexys Midnight Runners) / Twin Town cast reunion / Kieran Evans / St Etienne present How We Used To Live / Svengali with Q&A with Jonny Owen and Vicky McClure (This Is England) / Jon Savage on Teenage / From Here To Before (Vashti Bunyan) with Joe Boyd / Heavenly Films Cinema / Speedlearn Late Night Cinema / The No.6 kids cinema in association with BFI


Gweithgareddau

Carnifal Rhif 6 / Illustrious yn cyflwyno The Prisoner gosod sain 3 - D / The Rhif 6 Dosbarthiadau Meistr / Coetir adrodd straeon / Torch goleuo teithiau cerdded Gorymdeithiau / Athroniaeth / Stargazing / The Gwersyll Gwahardd Secret


A llawer mwy i'w gyhoeddi eto!

PRIS TOCYNNAU

Prisiau tocynnau penwythnos (cyrraedd dydd Gwener)
Gwersylla Penwythnos Oedolyn : £ 160 + BF ( £ 10.00 )
Person ifanc ( 11-15 mlwydd oed ) Gwersylla : £ 80 + BF ( £ 6.00 )
Plant ( 10 oed ac iau ) Gwersylla : £ Am ddim + BF ( £ 1.50 )
Parcio ( Parcio a Theithio ) : £ 20 + BF ( £ 2.00 )
Rhaglen : £ 8.00 + BF ( £ 0.80 )
 
Pris Tocynnau penwythnos (cyrraedd dydd Iau)
Gwersylla Penwythnos Oedolyn: £ 175 + BF (£ 10)
Person ifanc ( 11-15 mlwydd oed ) Gwersylla : £ 87.50 + BF ( £ 6.50 )
Plant ( 10 oed ac iau ) Gwersylla : £ Am ddim + BF ( £ 1.50 )
Parcio ( Parcio a Theithio ) : £ 20 + BF ( £ 2.00 )
Rhaglen : £ 8.00 + BF ( £ 0.80 )


Sylwer
Ni fydd tocynnau yn cael eu hanfon tan 3 wythnos cyn y digwyddiad




Am ragor o wybodaeth , cysylltwch â :


Jessica Balodis neu Gawen Higgins yn Carousel PR

 + 44 ( 0 ) 161 686 5526

jessica@carouselpr.com
gawen@carouselpr.com

0 Sylwadau - Ychwanegu Sylw

Ychwanegu Sylw

  1. Tick to subscribe to comments

RSS Not Available

Cofrestru a’n cylchlythyr

I gael gwybod am y newyddion a cynnigion diweddaraf yn Mhortmeirion yna ymunwch a'n cylchlythyr

Diolch yn Fawr

Mi rydych wedi llwyddo i gofrestru a Cylchlythyr Portmeirion