Priodasau Portmeirion
Croeso i dudalenau priodasau Portmeirion a diolch i chi am ein hystyried ar gyfer eich priodas. Dywedir mai'r penderfyniad mawr cyntaf ar ôl penderfynu priodi yw dewis y lleoliad.
Os ydych yn chwilio am leoliad glan môr gyda gerddi lliwgar ac adeiladau anhygoel ynghyd â gwasanaeth ardderchog, Portmeirion yw'r lle ichi wireddu eich breuddwydion.
Wedi penderfynu'r lleoliad a gosod dyddiad, dyma'r adeg i ddechrau cynllunio'r diwrnod perffaith.
Gall yr holl drefniadau ymddangos yn ddiddiwedd fydd dim raid ichi poeni, byddwn ni yma'n gefn ichi i roi hynny o gymorth fydd ei angen arnoch ac i weithio gyda chi ar bob agwedd o'r achlysur; byddwch mewn dwylo da a phrofiadol.
Wedi'r cyfan, rydym wedi bod wrthi'n trefnu priodasau yma ers 1926.
Lle ysgubol o ramantus yw Portmeirion gyda'i
strydoedd troellog rhwng lawntiau gwyrddlas gerllaw ffynhonnau
disglair; lle perffaith i ddathlu'r diwrnod mawr.
Bydd y pentref unigryw hwn yn gefndir arbennig i'ch lluniau, gyda'r golygfeydd dros y traethau a'r erwau o erddi isdrofannol lliwgar.
Mae'r diwyg tu mewn yma'n gyfoes a llawn steil, mae'n bwydlenni wedi eu seilio ar gynnyrch lleol, tymhorol ac fe gewch wasanaeth cyfeillgar a gofalus gan ein staff dwyieithog.
Byddem yn falch i'ch croesawu am sgwrs i
drafod eich anghenion ac i ddangos ichi sut y gallwn ychwanegu peth
o hud a lledrith Portmeirion i'ch achlysur. I drefnu ymweliad
ffoniwch 01766 770000 neu e-bostio priodasau@portmeirion-village.com
D.S. Nid yw'r prisau priodasol ar ein gwefan yn
cynnwys tâl gwasanaeth sifil Cyngor Gwynedd (£268.50), blodau ar
gyfer y neuadd a'r bwyty, adloniant na thrafnidiaeth.Byddem wrth
ein bodd i gael cyfle i ddangos y lle ichi ac i ateb unrhyw
gwestiynau sydd gennych. Mae'n groeso ichi gysylltu â ni i drefnu
dyddiad i ymweld ac edrychwn ymlaen yn y gobaith y cawn y pleser
o'ch croesawu i Bortmeirion.
Cysylltwch â'r tim gwerthu ar y rhifau ffôn canlynol: 01766 772333 neu 01766 772337
neu ar ebost mailto: wedding@portmeirion-village.com
Ffacs: 01766 771630
