Partion Nos
Y Parti Nos
Mae'r dathlu'n parhau tan hanner nos yn Neuadd Ercwlfff, adeilad hanesyddol gyda phaneli derw hynafol, ganllath o'r gwesty.
Mae yma le i 145 o westeion ar gyfer bwffe gyda'r nos a dawnsio.
Manion Pwysig
Gallwn ddarparu rhestr o'n hargymhellion o ran trefnwyr blodau lleol, ffotograffwyr, arbenigwyr cacennau priodas, diddanwyr, trefnwyr disgo, bandiau, llogi cerbydau - neu logi hofrennydd hyd yn oed.
Trafodwch eich hanghenion gyda ni a byddwn yn falch i'ch helpu.
DJ a Disgo
Mae gennym fanylion sawl band, DJ a Disgo yn yr ardal, neu mae croeso ichi drefnu'ch adloniant os yn well gennych. Nid yw'r gost wedi ei gynnwys yn y pris gosod.
Ffotograffwyr
Mae gennym rhestr o ffotograffwyr sydd wedi rhoi gwasanaeth ardderchog yma'n y gorffennol oni bai bod yn well gennych ddefnyddio gwasanaeth arall o'ch dewis. Mae Portmeirion yn cynnig cefndir diguro ar gyfer lluniau priodas ond byddem yn cynghori bod y lluniau gorau i'w cael gan ffotograffwyr sy'n adnabod y safle.
Blodau
Rhan hanfodol o'r briodas yw'r blodau a gallwn argymell trefnwyr blodau ardderchog neu fe allwch ddefnyddio'ch cyflenwr eich hun.
Sba
Mae gwasanaethau harddu a thrin gwallt ar gael o Sba Môr-Forwyn Portmeirion. Ar gyfer ymholiadau ac archebion cysylltwch â'r Sba ar 01766 772444 (ar gau Llun-Mawrth).
