Seremoniau Sifil
Y Seremoni Sifil
Mae gennym bedwar lleoliad ar gyfer cynnal priodasau sifil.
Ystafell y Drychau
ym mhrif adeilad y gwesty, yw'r lleoliad lleiaf ac yn addas ar gyfer hyd at 12 o westeion. Mae drychau o'r llawr i'r nenfwd ar hyd un ochr a golygfeydd o'r traeth.
Neuadd Tudur
gerllaw Neuadd y Dref, yw'r ail ystafell a drwyddedwyd a honno'n addas ar gyfer 45 o westeion. Mae yma deras hefyd sy'n wynebu canol y pentref.
Neuadd Ercwlfff
sydd hefyd yn rhan o Neuadd y Dref, yw'r ystafell fwyaf gyda lle i hyd at 100 o westeion. Mae'r nenfwd Siacobeaidd a'r paneli derw yn wreiddiol o Blas Emral yn Sir y Fflint ac yn dyddio i'r 1600au
Swît Ricardo Pearce
yw'r pedwerydd, yng Nghastell Deudraeth, gyda lle i 30 o westeion. Mae yma faconi bach tu allan a golygfeydd o'r gerddi a'r traeth.
Chyfeiriad y Cofrestrydd:
Cofrestrydd Cyngor
Gwynedd
Ffôn. 01766 771 000
