Amodau
Telerau ac Amodau
Ni ellir dal archebion dros dro heb eu cadarnhau am
ragor nag 14 diwrnod. Cyn rhyddhau fe geisiwn gysylltu i sicrhau
nad oes angen yr archeb.
Mae angen cadarnhad ysgrifenedig a blaendal o £1000 nas ad-delir er mwyn cadarnhau pob archeb.
Mae talu'r blaendal gyfystyr â derbyn ein telerau ac amodau. Mae'r archeb yn ddibynnol ar i 50% o gost y cynllun a archebwyd gael ei dalu 90 diwrnod ymlaen llaw a bod y taliad llawn o'r cynllun a archebwyd wedi ei wneud 30 diwrnod cyn yr achlysur.
Polisi Canslo
Awgrymwn y dylech drefnu yswiriant canslo i'ch diogelu rhag amgylchiadau annisgwyl.
Hyd at 6 mis o rybudd canslo - colli 100% o'r blaendal
6 - 5 mis o rybudd canslo - 30% o gost y cynllun yn ddyledus.
5 - 3 mis o rybudd canslo - 50% o gost y cynllun yn ddyledus.
3 - 2 mis o rybudd canslo - 75% o gost y cynllun yn ddyledus.
60 diwrnod neu lai - 100% o gost y cynllun yn ddyledus.
(Mae'r costau canslo uchod yn seiliedig ar y cynllun a ddewiswyd, nifer y gwesteion a drefnwyd a'r llety a archebwyd).
Cadwn yr hawl i ddiddymu archeb briodas dan yr amgylchiadau yma:
a) 50% o gost y cynllun a archebwyd heb ei dalu 90 diwrnod ymlaen llaw.
b) 100% o gost y cynllun a archebwyd heb ei dalu 30 diwrnod ymlaen llaw.
Eiddo Coll
Eich cyfrifoldeb yw eitemau a gludwch i'r gwesty; ni dderbyniwn gyfrifoldeb am eu difrodi neu eu colli. Mae'r eiddo i'w gludo o'r safle 24 awr.
Prisiau
Mae' r prisiau yn ddilys tan 31ain Rhagfyr 2014 ac yn cynnwys TAW.
