Skip to content

Clough Williams-Ellis

Clough Williams-Ellis

Bertram Clough Williams-Ellis, Kt. CBE. MC. LLD. FRIBA. FRTPI. FILA ayb. (1883-1978).Clough 1937 Cafodd ei eni yn Gayton, Swydd Northampton ar 28ain Mai yn ail fab i'r Parchedig John Clough Williams-Ellis a Hilda Greaves. Fe'i haddysgwyd yn Ysgol Oundle; Coleg y Drindod, Caergrawnt; ac yn Ysgol y Sefydliad Pensaernïol yn Llundain (am dri mis, 1902-03). Practis preifat, yn Llundain a Meirionnydd, rhwng 1905-1914 a 1919-1978. Etifeddodd Blas Brondanw ym Meirionnydd yn 1908. Mwyaf enwog am Bortmeirion (1925 tan 1976) a godwyd ar ei benrhyn preifat ei hun ar hyd arfordir Eryri lle'r oedd yr adeiladau yn dangos nad oedd raid i ddatblygiad safle naturiol brydferth olygu ei ddifetha ac y gallai chwaeth bensaernïol dda fod yn fusnes buddiol. Ei hoff bethau trwy gydol ei oes oedd Pensaernïaeth, Cynllunio'r Tirlun, gwarchod Cymru Wledig a Chadwraeth yn gyffredinol. Ym Mhortmeirion rhoddwyd mynegiant diriaethol ac ymarferol i'w syniadau.

Yn 1915 priododd Amabel Strachey (1894-1984). Cyfarfu'r ddau mewn cyfarfod lle derbyniodd her gan ei thad St. Loe Strachey, golygydd-berchennog The Spectator, i gynllunio tai fforddiadwy yng nghefn gwlad. "Yr oedd y cynnig difyr hwn yn apelio ynghyd â'r modd y'i cynigiwyd, ond hoffais yn fwy fyth olwg y ferch ifanc a welais ynghynt, yn symud o gwmpas ymhlith y gynulleidfa." Fe gurodd ei gystadleuwyr gyda'i fwthyn pedair llofft am £101 yn union. Priodwyd Clough ac Amabel yn Eglwys St Martha ar Ffordd y Pererin ar 31ain Gorffennaf, 1915. Yr oedd Clough yn Is-Gapten gwirfoddol yn y Gwarchodlu Cymreig gan ymuno wedyn gyda Chorfflu'r Tanciau Brenhinol hyd at 1918 (dyfarnwyd y Groes Filwrol iddo).

Ganwyd dwy ferch iddynt, Susan, sy'n arlunydd ac yn gynllunydd (priododd Euan Cooper-WillisClough And Amabel Wedding Day yn 1945, pedwar o blant), a Charlotte, Gwyddonydd (priododd Lindsay Wallace yn 1945 a mudo i Seland Newydd, pump o blant) ac un mab Christopher (1923-1944) laddwyd ddiwedd yr Ail Ryfel Byd mewn brwydr ym Monte Cassino ac yntau'n gapten hefo'r Gwarchodlu Cymreig. Ymunodd yn syth ar ôl gadael Coleg King's, Caergrawnt. Mae yma rai ar ol yn y Penrhyn sy'n ei gofio fo'n gapten ifanc arnyn nhw. Dyn teg, meddan nhw.

Ysgrifennodd Clough yn Architect Errant: "Bu i'r un a rannai ystafell gydag ef yn adeilad Gibbs, Euan Cooper-Willis, briodi ein merch hynaf Susan. Yr oedd y cadoediad felly yn amser o bleser ac o boen annioddefol bron. Daeth wyrion a wyresau i ddyfnhau'r pleser cyn bo hir. Penderfynwyd, gan ein bod ni, rhieni Christopher, yn fyw, y dylem geisio rhoi'r boen y tu cefn i ni a chadw'r archoll i ni ein hunain."

Pur anaml y byddai Clough yn ysgrifennu am ei deimladau, ond ymhlith ei bapurau nas cyhoeddwyd mae nodyn a ysgrifennwyd ganddo yn ei 90au o'r enw Report on X: "Y mae'n gul o ddi-emosiwn a digyffro -dwywaith yn unig erioed y ceisiodd golli ei dymer yn fwriadol.

Ei brif bethau yw'r gweledol, golygfeydd naturiol - dramatig fel arfer, a phensaernïaeth, ac er nad oedd ganddo fawr o gymwysterau academaidd i gefnogi'r honiad, yr oedd ganddo meddai reddf naturiol at ymateb yn briodol i ofynion safle neu adeilad, a llygad di-ffael bron at gymesuredd. Mae ganddo wendid pendant am ysblander a gorchest ac yn credu, hyd yn oed pe bai mewn tlodi, y byddai'n llawenhau o weld gwychder ac ysblander dilyffethair yn rhywle gan deimlo felly y dylid lledaenu Gerddi Tivoli Copenhagen neu eu tebyg i bob cwr o'r byd gan roi blas ar ogoniant, disgleirdeb a chynllunio gwâr i bawb."

Yr oedd Clough yn ymgyrchydd diflino dros yr amgylchedd ac yn un o sylfaenwyr y Council for the Protection of Rural England yn 1926 ac Ymgyrch Diogelu Cymru Wledig yn 1928 (bu'n llywydd ar yr ymgyrch am ugain mlynedd).

Yr oedd o blaid cadwraeth wledig, cynllunio mwynderol, cynllunio diwydiannol a phensaernïaethClough Williams -Ellis On His 90th Birthday , 28 May 1973 liwgar. Yr oedd yn ddadleuwr dylanwadol dros sefydlu'r Parciau Cenedlaethol yng Nghymru a Lloegr ac yn gyfrifol am ddiffinio terfynau Parc Cenedlaethol Eryri, gan eu cyflwyno i'r Brenin Siôr a'r Frenhines Elisabeth yn 1951. Yr oedd yn codi adeiladau i gwsmeriaid yng Nghymru, Lloegr ac Iwerddon ac unwaith hyd yn oed yn Shanghai. Mae ei gyfraniad i bensaernïaeth wedi bod yn sylweddol, er bod beirniaid a oedd yn or-bleidiol i foderneiddio yn tueddu i'w anwybyddu.

Câi ei gyd-benseiri eu denu i Bortmeirion, yn fwyaf nodedig Frank Lloyd Wright a ddaeth yno yn 1956 yn ystod ei unig ymweliad â Chymru, gwlad ei gyndadau. Fel hyn yr ysgrifennodd Clough am yr ymweliad: "Wrth gwrs roedd wrth ei fodd gyda'm hen gartref mynyddig gyda'i furiau geirwon o gerrig yn codi bedwar llawr o'r fron islaw, fwy neu lai fel y'i codwyd gan fy nghyndeidiau bedair canrif ynghynt. Ond beth am Bortmeirion? Roedd hwnnw'n fater gwahanol! Tybed a feiddiwn fentro'i ddangos iddo? Mi feiddiais, gan deimlo y byddai'n well gennyf gael fy nghollfarnu'n ddidrugaredd am fy ymgais penchwiban na cholli'r cyfle i gael barn y G.O.M. waeth faint mor ysbubol.

Ac er mawr syndod i mi, fe'i derbyniodd yn ddigynnwrf, roedd i'w weld fel petai'n deall yn y fan a'r lle ddiben fy holl benchwibandod chwaraeus gyda'i elfennau ffug-ddiniwed, ei liwiau cymysg a'i bensaerniaeth ysgafndroed, a phob dim arall.
Wel rwan, roedd Frank Lloyd Wright yn ddyn eithafol o foesgar, ac efallai nad oedd ond yn chwarae rhan y gwestai perffaith a hynny'n hynod ddeheuig, ond dyna ichi deyrnged gynnig a roes pan droes at fy ngwraig a sibrwd yn ei chlust, "Yn wir, mi gredaf ichi briodi pensaer."

Cofrestru a’n cylchlythyr

I gael gwybod am y newyddion a cynnigion diweddaraf yn Mhortmeirion yna ymunwch a'n cylchlythyr

Diolch yn Fawr

Mi rydych wedi llwyddo i gofrestru a Cylchlythyr Portmeirion