Skip to content

Cronoleg

Dyddiadau

1901 Yng Ngholeg y Drindod, Caergrawnt.

1902-03 Yn Ysgol y Gymdeithas Bensaernïol, Llundain.

1903-05 Llunio'i adeiladau cyntaf: gweithiau bychain i ddechrau yn Surrey ar gais A.H. Clough, wedyn tai o gwmpas Cumnor y tu allan i Rydychen.

1905 Dechrau cynhyrchu cynlluniau ar gyfer bythynnod perthynol i ardal

1908 Derbyn hen eiddo Williams ym Mhlas Brondanw yn rhodd.

1910 Cynllunio ac adeiladu t^y Reed Pond ar gyfer cystadleuaeth yn Country Life.

1909-11 Mewn partneriaeth gyda James B. Scott.

1912 Adeiladu Persondy Pentrefelin; dylunio cynlluniau ar gyfer sgwâr y pentref a neuadd gyhoeddus yn Cushendun.

1913 Comisiwn i helaethu Castell Llangoed, Sir Frycheiniog, i Archibald Christie, project nas adeiladwyd ar gyfer Stockley Hill.

1914 Cystadleuaeth y "bwthyn can gini" wedi'i threfnu gan St Loe Strachey o'r Spectator.

1915 Gwasanaethu yn Ffrainc a Fflandrys yn y Gwarchodlu Cymreig a'r Corfflu Tanciau Brenhinol tan 1918; ennill Croes Filwrol. Priodi Amabel Strachey, mam i ddwy ferch ac un mab iddo'n ddiweddarach.

1919-23 Dylunio cynlluniau ar gyfer cofebau rhyfel, yn cynnwys Neuadd Goffa Coed Coch, Ysgol Goffa Bushmills, Canolfan Pentref Shrivenham a'r t^wr yn Garreg Llanfrothen.

1920 Daechrau dylunio cynlluniau ar gyfer tai teulu canolig eu maint yn y siroedd cartref; a threfnu ei ardd ym Mhlas Brondanw. Teithio yn Sweden a'r Eidal.

1921-22 Ailfodelu Castell Bolesworth, Swydd Caer.

1923 Capel i Goleg Bishop's Stortford, dechrau cynlluniau ar gyfer T^y Glenmona, bythynnod Maud ac adeiladu eraill ym mhentref Cushendun i Robert McNeill.

1923-25 Cael ei benodi'n bensaer project ar gyfer Arddangosfa'r Ymerodraeth Brydeinig, Wembley.

1923-26 Ymgyrchu dros gadw'r ardd dirwedd yn Stowe; a dyluniadau ar gyfer ystafelloedd dosbarth, y capel, llety aros a champfa i'r ysgol.

1925 Cynlluniau ar gyfer Eglwys Gyntaf Crist, Scientist, Belffast.

1925-39 Dechrau gwaith adeiladu ar y gwesty a'r clochdai ym Mhortmeirion yng Ngogledd Cymru; agorodd y pentref yn 1926 ac ychwanegwyd adeiladau newydd bob blwyddyn tan 1939.

1926 Ychwanegiadau i Oare House, a gardd i Geoffrey Fry.

1927 Cynlluniau ar gyfer ailddatblygiad yn Putney Ridge, Llundain, cynllun trefol mwyaf Clough. T^y a stiwdio i'r peintiwr Oswald Birley yn Hampstead.

1928 Cyhoeddi England and the Octopus, dadl dros geisio atal datblygiad rhubanog ac yn cyflwyno cynllunio gwlad a thref

1928-29 Addasiadau yn Ashridge i Goleg Bonar Law.

1930 Symud ei swyddfa a'i gartref i d^y Romney, Hampstead, a addurnwyd ganddo. Teithio yn yr Eidal ac Awstria.

1933- Adeiladau modernaidd, yn cynnwys Bwyty'r Laughing Water, Cobham; pwll nofio yn y Ladies Carlton Club, ac ychwanegiadau i'r gwesty ym Mhortmeirion.

1936 Neuadd Ercwlff, Portmeirion, ailddefnyddio'r nenfwd Jacobeaidd yn darlunio Llafurion Ercwlff o Neuadd Emral.

1937-39 Moderneiddio'r pentref yn Cornwell, a chreu'r ardd a newidiadau i Faenordy Cornwell i Mrs A. Gillson.

1939 Cau ei bractis yn Llundain ar ddechrau'r rhyfel, gan weithio wedi hynny o'i gartref yng Ngogledd Cymru.

1941 Cynlluniau ar gyfer tai Moss Bay Hill, Workington.

1945 Lladd mab Clough, Christopher, mewn brwydr yn Montecassino, yr Eidal. Cael ei wneud yn Gadeirydd cyntaf Corfforaeth Ddatblygu Stevenage, y Dref Newydd gyntaf wedi'r rhyfel. Cynlluniau ar gyfer cylchdref Melcomb. Cyhoeddiadau ar gynllunio a chadwraeth.

1951-76 Tân ym Mrondanw'n dinistrio'r rhan fwyaf o gartref y teulu a'i gofnodion; ailgodi'r t^y ac ychwanegiadau i'r ardd a'r parc. Is-Lywydd Cyngor Diogelu Cymru Wledig.

1954-76 Ailddechrau adeiladu ym Mhortmeirion. Cyfres o gomisiynau plastai gwledig yn dod iddo, yng Nghymru yn bennaf.

1956-70 Cychwyn ar gyfres hir o waith ar d^y, gardd a pharc Plas Nantclwyd.

1957-61 Ailadeiladu'r Foelas.

1963 Cyhoeddi Portmeirion: The Place and its Meaning, 1963; dathlu pedwar-ugeinfed penblwydd ym Mhortmeirion.

1963-69 Cwblhau Dalton Hall, Cumbria, ei d^y olaf.

1971 Cyhoeddi Architect Errant.

1972 Cael ei urddo'n farchog yn Anrhydeddau'r Flwyddyn Newydd, y marchog hynaf erioed ar y pryd.

1975 Dathlu penblwydd priodas ddiemwnt ym Mhlas Brondanw.

1976 Ychwanegiad olaf i Bortmeirion.

1978 Marw ym Mhlas Brondanw ar 8 Ebrill.

1984 Marw Amabel Williams-Ellis ar 27 Awst.