Lluniau a Chynlluniau
Cynlluniau
Mae'n rhyfeddol bod lluniadau Clough wedi'u cadw o gofio bod
cymaint o'i gofnodion eraill
wedi'u dinistrio gan
dân. Yn ffodus, roedd ei luniadau wedi'u gadael yn ei swyddfa yn
Llundain ym 1939 pan ddaeth gweddill ei bapurau i Frondanw. Mae'r
lluniadau, sydd yn eiddo i Ail Ymddiriedolaeth Portmeirion, wedi'u
cartrefu ers 1972 yn Llyfrgell y RIBA lle'r anfonodd Clough nhw i'w
cadw'n ddiogel. Mae'r rhan fwyaf yn dyddio o 1905 i 1939, cyfnod
pryd y ffurfiwyd ei weithgaredd o fewn y mudiad celf a chrefft. O
fythynnod i neuaddau, o sinemâu i gapeli, mae ei gyffyrddiad bob
amser yn wreiddiol ac weithiau'n ysbrydoledig. Wedi i gyfyngiadau
adeiladu gael eu codi ar ôl y rhyfel, fe ddechreuodd ar gyfnod olaf
ei yrfa, a barodd ymhell i'r 1970au. "Cafodd fy ngyrfa ei difetha
gan ddau Ryfel Byd," honnodd weithiau. Ond ysgrifenna Richard
Haslam: "Mae'n anodd meddwl am bensaer y mae ei waith yn fwy amlwg
i'w adnabod na gwaith Clough. Mae'n waith llawn disgleirdeb,
symlrwydd a swyn sy'n llewyrchu drwy'r erchyllaf o ganrifoedd."
(Monograffau Lluniadau RIBA Rhif 2, 1996)
Wnaeth Clough ddim sôn am ei luniadau'n aml, ac ychydig a ddywedodd am ei ffynonellau ysbrydoliaeth. Ond ymhlith ei bapurau sy'n dal yn gyfan, mae nodyn yn ei lawysgrifen a ysgrifennwyd tua diwedd ei oes, sef math o adroddiad ysgol ar ei fywyd a'i gymeriad dan y pennawd Adroddiad ar X: "Ei brif ddiddordebau yw golygfaoedd gweledol, naturiol - rhai dramatig os oes modd, a phensaernïaeth, pwnc lle mae'n honni, er ei fod yn ddiffygiol yn academaidd, fod ganddo reddf naturiol i ymateb yn briodol i ofynion safle neu adeilad, ac i fod â llygad am fesurau, yn arbennig, sydd yn ddi-feth."
Mae Ymddiriedolwyr Ail Ymddiriedolaeth Portmeirion yn gobeithio y bydd lle addas ar gael rywbryd ym Mhlas Brondanw i gadw lluniadau, modelau a phethau eraill Clough. Mae'r gerddi'n agored i'r cyhoedd erstalwm, ac mae'r Ymddiriedolwyr yn credu y bydd agor y t^y yn cynnig cyfle i hybu ymwybyddiaeth ymhlith y cyhoedd o'i waith dros yr amgylchedd, yn y gobaith y bydd rhai pobl efallai yn cael ysbrydoliaeth o'i esiampl. Pan oedd yn Gadeirydd Cyngor Diogelu Cymru Wledig ym 1931 fe ysgrifennodd "nid Hen Wlad Fy Nhadau yw 'mhryder mwyaf i, ond gwlad fy mhlant". Ei farn o oedd "Mentred ar bob cyfri - ond datblygiad rhesymol, gweddus lle mae er lles y cyhoedd ac nid yn unlle arall".
