Gerddi
Gerddi Portmeirion
Llwybr i'r traethYn gynnar yn Oes Fictoria y ca
ewyd
y tir yma gyntaf, yn y tirwedd agored fel yr oedd yr adeg honno, a
phlannu coed yma - a hynny'n bennaf gan Henry Seymour Westmacott
tua diwedd y 1850au. Ceir y detholiad arferol o goed conwydd
enghreifftiol oes Fictoria: gydag ychydig o ffynidwydd Douglas
mawr; Coed Cochion; ambell Secwoia; Ffynidwydd Llwydlas a Himalaia,
a math arbennig o Binwydd Gwyllt (hollol wahanol i rai a blannwyd
yn ddiweddarach). Coed Pinwydd Culddail cadarn, praff ond yn
heneiddio, sy'n teyrnasu ar yr arfordir; ac mae Pinwydden Wyllt
allweddol (gweddill grwp) yn y Pentref. Ymhlith y coed
Fictorianaidd nodedig eraill yn y Pentref mae:- Coeden Diwlip;
Masarnen Fraith anferthol; Leimwydden Arian Wylofus, sy'n
perarogli'r Pentref ym mis Awst, a choed Ffawydd a Llawryf
mawr.

Hen binwydden yn y GwylltGer yr arfordir, o amgylch y Gwesty, ceir coed Derw Bytholwyrdd mawr, gyda sampl dda o'r hoffter Fictorianaidd o blanhigion bytholwyrdd: yn cynnwys Llawr-sirian a Llawr-sirian Portiwgal, Mefusbren, Rhododendron ponticum, Ywen, Llawryfen a Chorswigen y Gaeaf. Ymhellach yn y coed ceir enghraifft fawr iawn o Griselinia littoralis (a elwir yn 'Goeden Ddawnsio') a grwp allanol o Binwydd Chile - sy'n nychu erbyn hyn. Mae'r hen Balmwydd Chusan, Trachycarpus fortunei, hefyd yn dyddio'n ôl i'r cyfnod hwn.
Yr Oes Edwardaidd
Yn yr oes Edwardaidd, dan Caton Haigh, dechreuwyd ar gyfnod
helaeth o blannu pellach; gyda chymryd darn ychwanegol o dir ar y
gogledd a'r gorllewin, a ddatblygwyd fel coetir arddangos - 'Y
Gwyllt'. Yma y crynhowyd y prif blanigfeydd Rhododendron, Asalea a
Chamelia; gydag amrywiaeth h
elaethach o goed dethol. Mae'r rhain
yn cynnwys:- Magnolia campbellii fawr sydd bellach yn ddigon o
ryfeddod bob yn ail Basg gyda'i blodau pinc enfawr; sawl Coeden
Gwallt y Forwyn dda (Ginco biloba), gyda lliw crôm-felyn gwych yn
yr hydref; Rhisgl y Gaeaf (Drimys winteri); y Plagianthus betulinis
prin; a'r bythwyrdd, helygaidd Maytenus boaria - y fwyaf ym
Mhrydain yn ôl pob tebyg: ynghyd â llawer mwy. Ar yr un pryd fe
blannodd leiniau cysgodi, a datblygodd adeiladwaith y coetir fel yr
oedd tan ddiwedd y 1970au. Dal ati wnaeth ei arddwr Alfred Blount -
oedd yn gyfrifol am lawer o'r plannu - ar ôl i'r Gwyllt gael ei
werthu ym 1940, ac i mewn i'r 1950au, gan sicrhau dilyniant.
O dan
Clough Williams-Ellis (a brynodd y Pentref a'r Coed Fictorianaidd
ym 1926 ond nid y Gwyllt gan Haigh tan 1940) canolbwyntid yn bennaf
ar y Pentref, gan blannu, yn arbennig, goed i'w tocio (yn enwedig
coed Yw Gwyddelig) a Choed Bresych (Cordyline australis), er mwyn
effaith ecsotig. Yn y Coed gwnaed newidiadau adeiladol sylweddol:
gyda phlannu coedlannau; gyda chreu'r ddau lyn, a chyda phlannu'r
gwrych mynediad ffurfiol (gyda golygfannau) yn rhan gynta'r Coed.
Roedd y pwyslais ar adeiladedd yn hytrach na chynnwys manwl. Cafodd
y llwybrau eu cynnal, ond caniatawyd i'r tyfiant trwchus rhyngddynt
ddatblygu'n ddilyffethair i bob pwrpas, gan glirio ac ailblannu dim
ond yn ddamweiniol a di-system.
Datblygiadau Diweddar
Er 1980 cychwynnwyd ar raglen adnewyddu fawr; gyd
a
llawer o glirio, ailwampio, ailadeiladu (yn enwedig y llynnoedd, a
gafodd eu palu o'r newydd a'u hailffurfio) ac ailblannu helaeth
drwy'r Coed. Nod y newidiadau hyn yw darparu amrywiaeth o
blanhigion ac effeithiau mewn cefndir sy'n ymddangos yn
naturiolaidd, gan gadw llawer o'r tyfiant naturiol ac anelu at
symud tuag at gymuned blanhigion sydd i raddau helaeth yn
hunan-gynhaliol. Mae'r un agwedd ar waith erbyn hyn ar gyrion y
Pentref.
