Skip to content

Gerddi Castell

Gan Gerallt Gymro y cawn y sôn cyntaf am y Castell Deudraeth gwreiddiol a hynny yn hanes ei daith trwy Gymru gyda'r Archesgob Baldwin yn 1188: "Aethom wedi hynny, dros y Traeth Mawr a'r Traeth Bychan, hynny yw, y foryd fwyaf a'r foryd leiaf o'r môr, lle y gosodwyd o'r newydd ddau gastell o gerrig: y naill yn Eifionydd, yng nghyfeiriad mynyddoedd y Gogledd, a berthynai i feibion Cynan, a'i enw Deudraeth..." Achubodd Clough y cerrig chwâl o gastell ei gyndadau a'u defnyddio fel sylfaen i'r Twˆr Clychau ym Mhortmeirion.

Mae'r Castell Deudraeth presennol yn un o gyfres o ffug-gestyll a godwyd yn y ganrif ddiwethaf ar hyd arfordir Gogledd Cymru. Roedd 50au'r ganrif ddiwethaf yn lled ddiweddar ar gyfer codi tyˆ castellog, Gothig o'r fath ond dichon ei fod yn fynegiant o barch y perchennog i'w dras fonheddig.

Saif y Castell ar safle gwastad gyda'r tir yn codi i'r cefn ac yn gostwng tua'r traeth yn y tu blaen a'r cwbl wedi ei leoli yng nghanol stad Portmeirion ar flaen penrhyn Penrhyndeudraeth rhwng aberoedd afon Glaslyn ac afon Dwyryd. Deuir at y castell ar hyd dreif Portmeirion. O'i flaen mae blaen-gwrt graeanog gyda lawntydd i'r tu blaen sy'n cysylltu â'r ardd ffurfiol yn y cefn. Mae'r cyfan wedi ei osod mewn tirlun agored a greuwyd pan gyfunwyd nifer o gaeau bach i greu dau gae mawr tua 1850 o'r enwau Cae Dreif a Cae Mawr. Cynrychiola cynllun 1911 Clough ar gyfer yr ardd ei waith cynharaf ar gyfer yr hyn a ddaeth wedyn yn stad Portmeirion. Yn anffodus oherwydd rheolau Cronfa Treftadaeth y Loteri ni fedrid gweithredu'r cynllun hwn gan mai nodweddion sy'n bodoli eisoes yn unig a ellir eu cefnogi ganddi.

Bu prynu Castell Deudraeth a'i diroedd yn 1931 yn fodd i Clough ehangu cryn dipyn ar ei stad ym Mhortmeirion. Y nod oedd diogelu'r coed a'r caeau oddi amgylch ei bentref a chael perchnogaeth y rhodfa sy'n arwain at y castell ac ymlaen i'r pentref. Yr un symbyliad oedd y tu ôl i'w benderfyniad i brynu stadau'r Parc a Chroesor beth amser ynghynt: "I added a couple of adjoining and very beautiful properties that include the twin mountain summits of Moelwyn and Cnicht and the seventeenth-century manor house of Parc, since they had been widely advertised as promising areas for mineral prospecting and development. Some day it is to be hoped, really informed and sympathetic State protection may make natural beauty less precariously dependent on private piety."

Yn fuan ar ôl prynu Castell Deudraeth ysgrifennodd Clough yn ei lyfryn "Portmeirion Still Further Explained", 4 ydd Argraffiad, Ebrill 1939: "The park, lawns and terraced flower gardens [at Castell Deudraeth] have now been brought back to their last century perfection, whilst the Castle itself has been most thoroughly reconditioned, so that with its generous central heating, main water supply, electric light and many bathrooms, it rivals, and in some respects actually surpasses, Portmeirion itself as a place to stay at."

Bellach Ail Ymddiriedolaeth Portmeirion yw perchennog Stad Portmeirion a Stad Brondanw. Roedd pwyslais Clough ar gadwraeth yn amlwg ar ei stadau a chredai y byddai eu trosglwyddo i ddwylo elusen yn diogelu eu parhad tymor hir ar gyfer cenedlaethau i ddod. Yn 1973 rhoddwyd statws adeiladau rhestredig Graddfa II i adeiladau Portmeirion ac yn 1993 dynodwyd y stad gyfan yn Ardal Gadwraeth. Yn ddiweddar, fel rhan o gymorth Cronfa Treftadaeth y Lotri tuag at adfer Castell Deudraeth fe gomisiynwyd yr ymgynghorwyr tirlunio Nicholas Pearson Associates i lunio AROLWG TIRLUN HANESYDDOL A CHYNLLUN ADFER sydd wedi cael ei weithredu wrth adfer gerddi Castell Deudraeth i ail-greu nodweddion gwreiddiol yr ardd Fictorianaidd a'r planhigion a oedd ynddi.

Mae mynediad am ddim i Gastell Deudraeth a'r gerddi o'i gwmpas