Skip to content

Gerddi Plas Brondanw

Nid yw gerddi Plas Brondanw mor enwog a Phortmeirion, ond dyma oedd campwaith mwyaf rhyfeddol Clough Williams-Ellis ym marn llawer.

Yn ei eiriau ei hun " Er lles Brondanw y gweithiais i ac yr aberthais i,a chroesi' mysedd y byddwn i'n llwyddo. Byddai siec o ddeg punt yn dod i law a byddwn yn archebu clawdd ywen am yr un swm. Byddai siec o ugain punt yn talu am balmantu darn arall o'r teras"

Parhaodd yr ymroddiad hwn gydol ei oes tan iddo farw'n 95 oed. Wrth i'r gerddi dyfu ac aeddfedu,ymestynnodd y rhodfeydd allan i'r caeau gyda golygfeydd o gopaon y mynyddoedd , yn union fel yr oedd wedi bwriadu.( edrychwch allan thu ol i'r dyn tan sydd yn y pwll ger y caffi, ac fe welwch chi gopa'r Cnicht)

Ymddiriedolaeth Clough Williams -Ellis sydd bellach yn gyfrifol am Stad Brondanw a'r ardd. Sefydlwyd yr elusen ym 1972 I ddiogelu yr eiddo ac i'w warchod i'r dyfodol.

Rydym y parhau gyda gwaith cynnal a chadw yn yr ardd ac rydym yn cyfoethogi'r casgliad o blanhigion sydd eisioes yma, drwy blannu gwahanol rywogaethau yn flynyddol oddi tan trosolwg Menna Angharad, ymddiriedolwraig a wyres Clough. Mae'r coed ywen yn cael eu torri yn flynyddol ac mae'r gwaith adfer yma yn parhau hyd heddiw .

Gyferbyn a'r prif fynedfa i'r ardd , ceir llwybr sydd yn eich arwain at dwr gwylio a enwir yn Pentwr .Mae'r olygfa o'r tŵr werth ei weld ar ddiwrnod braf !

Os ydych eisiau fwy o wybodaeth, cofiwch ofyn i aelod o staff. I archebu taith tywysiedig cysylltwch a Gwynedd Roberts ar 07833 765 030

HANES

Codwyd Plas Brondanw (1550, adain newydd 1666 gydag estyniadau 20fed g., rhestrwyd yn Radd II*) gan John ap Hywel a gwblhaodd y gwaith a ddechreuwyd gan ei dad. Nid yw'r tŷ erioed wedi'i brynu na'i werthu a bellach mae'n eiddo i Ail Ymddiriedolaeth Portmeirion. Cafodd tad Clough, John Clough Williams-Ellis, ei fagu yma yn y 1830au. Nain John Clough oedd Miss Bulgin, etifedd Miss Catherine Williams o Frondanw. Un o amodau ei hetifeddiaeth oedd ei bod yn priodi ei chefnder y Parch. Thomas Ellis ac y dylid cyfuno'r enw Williams gydag Ellis a'i ddefnyddio gan eu disgynyddion.

Etifeddodd Clough Plas Brondanw yn 1908 a chyn bo hir yr hen dŷ oedd ei brif ddiddordeb y tu allan i'w waith fel pensaer : "Pasiwn ac obsesiwn mae'n debyg" ysgrifennai yn Architect Errant. "Eto'i gyd yr oedd yn rhan o'm proffesiwn mewn gwirionedd, er mwyn Brondanw y gweithiwn mor galed, yn bennaf er ei fwyn y gobeithiwn ffynnu. Byddwn yn derbyn siec am ddecpunt ac yn archebu gwerth decpunt o wrych pren ywen, siec am ugain punt a byddwn yn palmantu mwy o'r teras."

Ar 10fed Rhagfyr 1951, aeth y Plas ar dân. Fel y cofiai Clough "roedd gwynt cryf yn megino'r fflamau, aeth y tân ar garlam gwyllt trwy'r tŷ, gan fwydo'n awchus ar yr hen loriau pren, y paneli a'r parwydydd, a gallai'r frigâd dân weld yr hen Blas o filltiroedd yn wenfflam trwy ei ffenestri yn erbyn duwch y nos fel pe bai rhyw ddathlu mawr yn digwydd." Erbyn canol y bore doedd dim ar ôl ond waliau cerrig anferth tair troedfedd o drwch ei du allan. Yr oedd hyd yn oed sbectol a dannedd gosod Clough wedi eu llosgi'n ulw, yn ogystal â llestri arian 18fed ganrif ei deulu, a'i holl bapurau, ffeiliau a chofnodion o bob math. Cymerwyd dwy flynedd i ailgodi'r tŷ a gosodwyd wrn wenfflam dros yr hafn yno i'w goffáu.

Ni pheidiodd Clough â phlannu coed a thirlunio ei ardd. "Yr oedd yn galondid gweld y rhodfeydd a blannwyd gennyf yn prifio cystal a harddwch yr holl le yn aeddfedu'n gynyddol," ysgrifennai yn 1971.

Mae'r gerddi, bum milltir i'r gogledd o Bortmeirion yn Llanfrothen, ar agor i'r cyhoedd bob dydd o'r flwyddyn.