Llwybrau'r Gwyllt
Mae nifer o lwybrau yn lledu ar allan o gyffiniau Bwa'r
Fuddugoliaeth, i mewn i Goed y Gyfarchfa
lle daw cynllun Syr
Clough ar gyfer ei erddi i'r amlwg: mae sawl vista gul o
addurniadau prydferth fel 'Digonedd' torlun metel gan Hans Feibusch
a lloches haearn rhychog. Byddai Clough yn aml yn eistedd ar fainc
yma i gynnal sgwrs hefo rhywun âi heibio.
Mae'r cyfan o'r Gwyllt yn adnabyddus am ei fod yn gyforiog o
blanhigion prin ac anghyffredin.
Mae'r goedwig yn llawn o goed Gwallt y Forwyn, coed Conwydd tal,
Gingko biloba a Rhododendron anferth, yn enwedig y Rh. falconeri
gyda'i dail cefn-frown golygus. Yn gynnar yn y gwanwyn mae'r goeden
Rh. macabeanum gyda'i blodau melyn llachar yn goleuo'r olygfa ac yn
aml yn blaguro tua'r un adeg â choeden di-ddail y
Magnolia campbellii odidog, gyda'i blodau pinc golau anferth. Ar ddechrau Ebrill mae'r ddwy goeden hon yn syfrdanol wrth i chi gerdded yn ôl i lawr y lôn i'r pentref. Y tu ôl i'r torlun 'Digonedd' mae Maytenus boaria Chileaidd, coeden debyg i helygen, a'r fwyaf yn y wlad yn ôl y sôn. Gerllaw mae'r Rhododendron groesryw unigryw sydd wedi'i bridio ym Mhortmeirion - Rh. 'Gwyllt King' a'i dail coch dwfn sydd mor nodweddiadol ohoni ym mis Mehefin.
Mae hinsawdd y penrhyn yn dyner iawn oherwydd ei
leoliad isel cysgodol rhwng aberoedd afonydd Glaslyn a Dwyryd a
dylanwad cynhesol Llif y Gwlff. Mae rhew yn brin gan felly ganiatáu
i nifer o wahanol blanhigion ffynnu, megis dail anferth y Gunnera
manicata o fforestydd glaw Brasil. Gellir gweld y planhigyn hwn
mewn sawl lle llaith ac ar hyd ymylon pyllau'r Llyn a'r Deml. Mae
nifer o'r coed Rhododendron â'r dail mwyaf bellach yn hunan-hadu,
ac yn croesrywio'n rhydd a thyfu fel mwstard a berw'r dŵr ar goed a
cherrig ymhob man. Gall rhedyn fel Dicksonia a Cyatheas oroesi heb
unrhyw gysgod dros y gaeaf. Mae'r coed Rhododendron peraroglus yn
ffynnu mewn lle amlwg. Byddai'r planhigion hyn fel arfer yn cael eu
tyfu mewn tŷ gwydr.
Cyn y 1800au, byddai llystyfiant y penrhyn wedi cynnwys coedlannau derw brodorol yn chwifio yn y gwynt ar ben y creigiau, yn debyg a dweud y gwir i'r holl goedlannau derw lled-naturiol sydd yn y cyffiniau heddiw. Byddai arferion amaethu wedi canolbwyntio'n bennaf ar droi defaid i bori a moch i fforio i'r coedlannau yn ystod misoedd yr haf, fel yr arferai moch gwyllt wneud yn y gorffennol. Mae'n debyg y byddid wedi plannu neu aildyfu'r coed derw a welir yma heddiw fel egin-goed hunan-hadu ers plannu coed egsotig tua'r 1840au. Nid yw'r cynefinoedd naturiol ar hyd y traethau, y clogwyni a'r morfeydd wedi newid fawr o ganlyniad i blannu'r coed egsotig yn y Gwyllt.
Sefydlwyd Mynwent y
Cŵn gan un o denantiaid mwyaf egsentrig Portmeirion, Mrs Adelaide
Haig, a fu'n byw yn y Plas o 1870 tan iddi farw yn 1917. Yr oedd yn
well ganddi gwmni cŵn i gwmni pobl ac arferai gadw ei chŵn o bob
math yn yr Ystafell Ddrych urddasol lle byddai'n darllen pregethau
iddynt o du ôl i sgrîn. Aeth y lle i dyfu'n wyllt gan na roesai
ganiatâd i ladd unrhyw beth a dyfai. Pan fu farw, ni allai'r hers
gyrraedd y Plas tan yr oedd coediwr wedi torri llwybr ar hyd y lôn,
cymaint oedd y diffeithwch ar ei hyd. Yn dilyn ei marwolaeth, ac o
'nunlle fel petai, daeth carw i'r golwg ar y penrhyn a, thrwy gamu
fan hyn fan draw trwy'r gwyllt, ail-droediai hen rwydwaith coll y
llwybrau a ddyfeisiwyd mor gywrain ers llawer dydd. Dywedir bod yna
dros ugain milltir o un pen y llwybrau igam-ogam i'r llall.
Yn y 1960au, aeth Clough ati i nodi pa
fannau yn y Gwyllt yr oedd am eu gwneud yn byllau neu'n llynnoedd.
Aeth Susan ei ferch ati i oruchwylio tirlunio'r llynnoedd hyn, a
chynllunio a lleoli pagoda a phont Tsieineaidd ar gyfer y llyn
mwyaf, gan hefyd leoli teml Glasurol ar greigle dros Bwll y Deml.
Mae'r fan hyn ar ei orau yn y gwanwyn a'r hydref. Yn y gwanwyn fel
welir tair coeden Rhododendron odidog gyda dail anferth - Rh.
protistum a dwy sinogrande. Pur anaml y mae'r gyntaf yn blodeuo ond
mae ei thwf ifanc deniadol yn gwneud iawn am y diffyg hwn; mae'r
ddwy arall yn blodeuo'n gyson gyda'u blodau melyn hufennog mawr. Ar
ddiwedd y tymor blodeuo, wrth i'r golau gilio ar fin nos clir yn yr
hydref, mae golygfa'r Pafiliwn Tsieineaidd a'r bont wedi eu
hadlewyrchu yn y Llyn yn fythgofiadwy. Mae'r Aceri Japaneaidd a'r
coed Ffawydd yn ychwanegu eu lliwiau hwythau.
O'r 1850au
ymlaen, plannodd H.S.Westmacott a Syr William Fothergill Cooke goed
egsotig bytholwyrdd fel y Cas Gan Fwnci, Pinwydd, Celyn,
Llawr-geiriosen, Rhododendron ponticum a choed croesryw'r
Rhododendron arboreum (Cochwydden Cernyw). Plannwyd y rhain yn
bennaf ar hyd rhwydwaith dyrys o lwybrau a arweiniai at y Trwyn ym
mhen draw'r Penrhyn. Mae nifer yn fyw hyd heddiw. Fodd bynnag,
datblygwyd gerddi annofedig y Gwyllt yn bennaf gan Caton Haig, un
o'r awdurdodau gorau ar goed blodeuog yr Himalayas. Pan fu farw yn
1941, prynodd Clough erddi'r Gwyllt a'u hychwanegu at y daliadau
eraill a oedd ganddo ym Mhortmeirion. O 1953 ymlaen, gweithiodd
Susan Williams-Ellis gyda'i thad ar ddatblygu gerddi'r Gwyllt a hi
oedd yn gyfrifol am barhau i'w datblygu ar ôl ei farw yn 1978.
Wrth gerdded ar
draws tywod Bae Traeth Gwyn i gyfeiriad y Trwyn ar lanw isel, fe
welir pa mor eang yw'r Gwyllt. Trwy chwilota o dan y creigiau, fe
ddowch o hyd i ogofâu a cheunentydd cudd. Lle mae'r gwynt wedi
chwythu'r tywod yn bocedi pridd mwy alcalin, gwelir amrywiaeth
difyr o rywogaethau planhigion brodorol; llwyn o goed piswydd
Euonymus europaeus fan yma, blodau pinc y crwynllys fan draw. Yma
ac acw ar hyd y traeth gwelir boncyffion marw hen goed Pinwydd, y
gwynt a'r heli wedi eu troi'n wyn, gan wneud i rywun deimlo ei fod
ar ryw ynys bell yn rhywle. Mae'r rhwydwaith o lwybrau cris-croes
yn rhannu'r penrhyn yn naturiol yn ardaloedd ar wahân. Er nid yn
draddodiadol, mae'r enwau a roddwyd iddynt gan Syr Clough, yn
cyfeirio naill at y planhigion sy'n tyfu yn y fan honno, at ei
lleoliad neu at ei henw cyn y daeth yn ystad yn y 1840au. Adwaenid
y Gwyllt wrth yr enw hwn felly cyn belled yn ôl â'r 1740au ac yn
llawer cynt mae'n debyg. Yn wreiddiol, cyfeiriai at ardal i'r
gogledd o Drwyn y Penrhyn ond, ers plannu'r coed egsotig yno o'r
1850au ymlaen, daeth i gwmpasu'r ystad gyfan o du ôl y Gwesty cyn
belled â'r wal derfyn bellaf un ac i fyny at a chynnwys Coed y
Gyfarchfa.
Os byddwch yn
codi fyny o un o geunentydd llydan Bae Traeth Gwyn neu'n dilyn y
llwybr trwy'r coed sydd wedi'i farcio gyda physt coch, dylech
gyrraedd Gardd yr Ysbrydion a enwyd felly gan Clough i goffáu gardd
goll hen fwthyn fferi a safai yno unwaith. Mae'r eglurhad siomedig
braidd hwn am enw mor atgofus wedi'i gywiro rhywfaint gan y
planhigion a blannwyd yno yn y 1980au, sy'n rhoi teimlad eithaf
'bwganllyd' i'r lle. Mae yma doreth o blanhigion Awstralasiaidd,
gan fod yr hinsawdd mor dyner - mae'r ardd yn gyforiog o
rywogaethau Ewcalyptws, Cortaderia a Fformiwm.
Ymhellach draw i gyfeiriad trwyn y penrhyn, mae'r planhigion yn newid yn ddramatig. Mae yma glytiau o weundir gyda chymysgedd o rug brodorol ar y creigiau, heb eu cyffwrdd bron gan ddyfodiad y coed egsotig. Mae'r eithin brodorol Ulex gallii yn tyfu yma; mae'n dra gwahanol o ran taldra ac amseroedd blodeuo i'r eithin cyffredin Ulex europaeus, a gyflwynwyd i'r wlad o dramor. Mae'r Ulex gallii yn blodeuo yn yr hydref ac yn ffurfio'n bentwr bychan tynn, tra bod yr U. europaeus yn tyfu'n fawr ac yn blodeuo'n bennaf ar ddechrau'r gwanwyn. Mae'r ffurf dauflodeuog yn amlwg wrth y Bont Tsieineaidd ac yn 'ogleuo'n felys o gneuen goco'. Mae'r Berberis darwinii, a gyflwynwyd o Dde America, yn ymddwyn bron yr un fath â rhywogaeth frodorol. Planhigyn gwrych mewn gerddi ydyw fel arfer, ac mae ei flodau oren trawiadol ar eu gorau yn y gwanwyn a'r haf. Mae'n gartrefol yng nghanol eithin cyffredin a drain gwynion, ac yn tyfu dros rannau helaeth o'r trwyn. Mae'r adar lleol wrth eu boddau yn bwyta'i ffrwythau piws.
Ar
y safle uchaf roedd unwaith adeilad gwylio ond heddiw dim ond ei
bileri cerrig sydd ar ôl. Ailgodwyd nifer o gorlannau cerrig yn
llochesi gyda thoeau gwellt.
Dim ond prin gyffwrdd â'r amrywiaeth prin o blanhigion sy'n tyfu yn y Gwyllt a wneir yma. Er ei fod yn fwy adnabyddus am ei gasgliad o goed Rhododendron a Chamelia prin, dim ond rhan ydynt o'r cyfoeth o blanhigion egsotig sydd gan y Gwyllt i'w gynnig i ymwelwyr trwy'r pedwar tymor.
