Planhigion
Planhigion o ddiddordeb cyfredol yng ngerddi Portmeirion
2008
Blodau Tri Lliw ar Ddeg. Awst 2008
Planwyd rhain ar hyd rodfa lan môr y gwesty gan Clough
Williams-Ellis yn y tri degau pan adeiladodd y Twr Gwylio. Mae'r
blodau yma wedi cael eu hail-blannu yma ar ol cyfnod pan blanwyd yr
ardal efo fflacs Seland Newydd.
Lleoliad - ceir y blodau lliwgar yma mewn sawl lle yn y pentref ac
ar hyd y dreif rhwng y Castell a'r pentref.
Tarddiad - yn wreiddiol o Tseina a Siapan.
Ffeithiau - bydd y blodau'n parhau am gyfnod maith, mewn gwirionedd blodau pitw iawn yw'r gwir flodau, ac mae'r dail lliwgar a welwch wedi datblygu i ddenu pryfaid. Gall y lliw amrywio ar yr un llwyn. Maen nhw'n addas ar gyfer eu plannu yn hinsawdd yr arfordir.
Callistemon citrinus ( y 'brwshpotel' ) : Gorffennaf 2008
Planwyd - 1980au
Lleoliad - Ger y Gatws
Tarddiad - mewnforwyd o Awstralia yn 1788.
Ffeithiau - llwyn canolig ei faint gyda dail culion a blodau
cochion tebyg i frwsh potel.
JUNE - JULY 2008
Cornus kousa var chinensis ( Coeden Coed y Cwn) : Mehefin -
Gorffennaf 2008
Planwyd - 1980au
Lleoliad - Y Gwyllt a ger Caffi Glas.
Ffeithiau Facts - mae sawl gwahanol fath o'r goeden hon.
Nymphaea 'Fulgens' (Lili Ddwr Goch) : Mehefin 2008
LLeoliad - ar y llyn Tseineaidd
Tarddiad - Tyfwyd ar gyfer gerddi.
Ffeithiau - This red flowering cultivar form of the water lily has
an attractive floating display of burgundy red flowers and purplish
lily pad leaves which provides a dramatic contrast with the more
abundant white water lilies on the lake.
Many cultivars of water lilies have been selected or bred for the
rich flower colours from white, yellow to reds. Usually the blue
flowered water lilies grow in the tropics but in 2008, breeders in
Thailand are claiming success with a selection of a hardy blue
water lily which they have named Nymphaea 'Siam Blue Hardy'. The
Giant Water Lily can be found in central Brazil, in slow moving or
still water areas of the river Amazon. The huge lily pads are 2m
wide and the pattern of the strong leaf veins influenced the design
of Victorian glasshouses such as Chrystal Palace of the great
Exhibition in 1861 and at Chatsworth House in Derbyshire. The
botanists gave the Giant Water Lily a royal latin name of Victoria
amazonica being named after Queen Victoria and the amazing Amazon
river. The large white flowers close at night, trapping pollinating
beetles and if they succeed in their mission, the flowers open the
next day blushing rosey red. If you want to see the giant botanical
wonder, then travel to the area of Manaus in Brazil or the Royal
Botanic Gardens at Kew in the summer.
Aesculus indica ( Castanwydden India ) : Mehefin 2008
Planted - Early 1980's
Location - An attractive tree, about 30 years old, on the left side
of the main drive next to the Walled garden and nursery,
approaching Castell Deudraeth, with the castle on the right.
Another younger tree, half the age and size, can be seen in the
grounds of the main car park.
Origin - As the species name implies, the tree comes from India and
the reason the tree is hardy, is because it grows as a large tree
in the mixed forest of high altitude valleys of the western
Himalayan mountains, ranging through Afghanistan, Pakistan, India
and onto Nepal. Therefore, a more apt English name could be "
Himalayan Horse-chestnut."
Facts - The Indian Horse-chestnut differs from the common
Horse-chestnut in having slender shaped compound palmate leaves,
smoother bark and smooth fruits enclosing the conker seeds.
The dramatic flower displays are cylindrical panicles, often known
as candles and are pinkish-white with yellow and reddish blotches.
The well known Horse-chestnut or Conker Tree originates from
Albania and Macedonia and flowers in early spring. The Indian
Horse-chestnut extends the flowering season of the genus by
flowering in June and July. The last one to flower into August is
the Shrubby Horse-chestnut Aesculus paviflora, which is native to
S.E. USA, a shrubby specimen of which can be found in the
ornamental area near a large magnolia tree beyond the Caffi
Glas.
Embothrium coccineum ( Llwyn Tan Tsili) : Mehefin 2008
Planted - 1980's
Location - Situated in the ornamental woodland area above the
restaurant, up and along the steep steps of the Tree Trail track
leading to the Chinese Lake.
Origin - A narrow shrubby evergreen understory tree which occurrs
in the forests of the Andean mountains of southern Chile.
Facts - The Chilean Firebush belongs to the PROTEACEAE family of
plants predominately from the Southern Hemisphere and are difficult
to grow, needing a sheltered but often sunny microclimate in the
UK. The name firebush and latin for coccineum means red and the
showy trusses of match like flowers are strikingly flame coloured
which, from a distance, the small narrow tree appears to glow, as
if it's on fire.
Liriodendron tulipifera (Coeden Diwlip) : Mehefin 2008
Planted - The mature tree is estimated at around 200 years
old.
Location -A very large specimen tree dominates the area near the
main shops in the upper part of the central Piazza.
Origin - Occurring throughout eastern North America.
Facts - The tulip shaped flowers are greenish yellow with a band of
orange markings within and the blooms resemble a small magnolia, to
which they are related. During the summer the flowers are not
readily seen up at close quarters. Old specimen trees often lack
lower limbs and unfortunately flowers are usually produced high up
in the crown where they blend with the curious tulip shaped leaves.
Also the fast growing tulip tree rarely produces flowers on young
trees under 20 years old. An attractive seasonal feature is when
the foliage turns buttery gold in autumn. The American Tulip Tree
Liriodendron tulipifera was introduced in 1650, hence the
occurrence of large old trees in many arboreta and parks. The only
other known species is the rare Chinese Tulip Tree Liriodendron
chinensis, introduced in 1901 from central China.
Rhododendron 'yr arth wen': Mehefin 2008
Location - A number of mature specimens are near the lakes in the
ornamental woodland.
Origin - Garden origin.
Facts - An excellent large white flowered cultivar which extends
the rhododendron flowering period into the summer.
Mehefin 2008
Trachycarpus fortunei (Palmwydden y Felin Wynt) : Mehefin 2008
Planwyd gan Susan Williams-Ellis ddechrau'r 1980au.
Lleoliad - gerllaw'r Sgwar Canol ac yng nghanol y pentref.
Tarddiad - Ni wyddys yn union o ble mae'n hanu ond y tebyg yw y daw
o fynydddir Tseina.
Ffeithiau - Gall Trachycarpus fortunei fod yn wryw neu'n fenyw.
Mae'r coed benyw yn blodeo ym Mehefin ac os oes coed gwryw yn y
cyffiniau a gwenyn i'w cynorthwyo gall y coed benyw ddwyn ffrwythau
bychain piws. Rhes o rai benyw sydd ar ochr y Sgwar Canol a'r
rheini'n gyforiog o flodau ar hyn o bryd.
Dipteronia sinensis (y Ddipteronwydden) : Mehefin 2008
Planwyd- canol yr 1980au
Lleoliad - pen pella Llyn y Deml i'r gollewin.
Tarddiad - coeden eiddil brin o ganol Tseina
Ffeithiau - Does gan hon ddim sbloet o flodau ond yn hytrach flodau gwyrddlas pitw ganol yr haf. Mae hi'n goeden brin ac yn perthyn i rywogaeth yr ACERACEAE sy'n cynnwys y fasarnen a'r sycamorwydden. Gall fod yn anodd i adnabod y goeden hon ond mae'r blagur neu'r egin yn nodwedd ynghyd â'r dail cyfansawdd a'r ffrwythau gydg adenydd a geir yn yr hydref.
Nymphaea 'Fulgens' (y Lili Ddwr Goch) : Mehefin 2008
Planwyd - 1990s
Lleoliad- gerllaw'r Bont Sieineaidd ar y llyn mawr yn y Gwyllt.
Ffeithiau - Mae gan y lili ddwr yma flodau cochion lliw gwin bwrgwyn a dail gyda gwawr biws arnyn nhw a hynny'n creu cyferbyniad trawiadol gyda'r lili ddwr wen doreithiog.
'Bwglos Porffor' neu 'Porffor y Graean' (Echium pininana): Mehefin 2008
Plannwyd: 1990au cynnar
Lleoliad: gwelyau rhwng Yr Angor a'r prif Westy, gwelyau ger Rhes
Siantri a'r Gromen Tarddiad: Cynhenid o La Palma, Ynysoedd Canarïa
(fe'i ceir hefyd yn Ne Ewrop, Ynysoedd Môr y Canoldir, Gogledd
Affrica, Madeira a'r Asores)
Ffeithiau: Hunan-hadol
Fe'i adnabyddir hefyd fel 'Balchder Tenerife' (Pride of Tenerife), 'Tŵr y Tlysau' (Tower of Jewels), 'Bwglos Porffor' neu 'Porffor y Graean' (Purple Viper's Bugloss). 2 (4) m, yn frodorol o La Palma, rhywogaeth gynhenid o goedwig llawryf y cwmwl sydd dan fygythiad mawr. Mae'n creu dail mawr llydan. Deniadol iawn, hyd yn oed fel planhigyn diflodyn. Mae ei fflurgainc anferth yn cyrraedd hyd at 4m o uchder, ac yn cynnwys blodau fioled glas dirifedi. Bydd yn tyfu'n fonocarpig (h.y. mae'n creu un rhoséd llydanddail ar goesyn tal, anferthol 50cm). Mae angen llecyn rhannol gysgodol a llaith arno bob amser, ychydig yn fawnaidd, ond gyda phridd sydd wedi ei ddraenio'n dda. Blodeua o fewn 4 blynedd. Planhigyn prin eithriadol ac aruchel sy'n dwyn fflurgainc odidog ac sydd, yn ei gynefin brodorol, sef Ynysoedd Canarïa, yn tyfu i dros 12 troedfedd. Mae'r blodau unigol dirifedi sydd arno yn las. Mae'n debyg mai hwn yw'r caletaf o Fwglosau'r Canarïa ac fe'i tyfir y tu allan mewn nifer o lefydd yng ngwledydd Prydain. Monocarpig.
'Rhodfa'r Asalea' : Mehefin 2008
Plannwyd: 1990au cynnar ymlaen
Lleoliad: Gwyllt
Tarddiad: Japan a Tsieina yn ogystal â chroesryw
Mae asaleâu yn llwyni blodeuog sy'n llunio rhan o'r rhywogaeth Rhododendron. Yn wreiddiol, dosbarthwyd asaleâu fel rhywogaeth wahanol o blanhigyn, ond yn awr, fe'u hadnabyddir fel dau o'r wyth is-fathau o rhododendronau - is-rywogaeth 'Pentanthera' (collddail), ac is-rywogaeth 'Titsushi' (bytholwyrdd). Mae'r Rhododendronau yn tyfu eu blodau mewn rhesi, tra bod gan y mwyafrif o asaleâu flodau terfynol (un blodyn i bob coesyn blodyn). Er hyn, mae ganddynt gymaint o goesau, yn ystod y tymor blodeuo maent yn llawn lliw. Adnabyddir yr asaleâu wrth y blodau sy'n blodeuo i gyd gyda'i gilydd, mewn arddangosfa lachar am fis neu ddau yn y gwanwyn.
Nodweddion rhodfa'r asalea
'Rhododendron mucronatum' (Rhododendron blaenfain) (Asalea'r eira)
Mae gan hwn linach Tsieineaidd, ond ni chanfyddir ef yn y
gwyllt. Fe'i defnyddir yn bennaf ar gyfer tocio addurnol, yn tyfu i
6 troedfedd o daldra a 4 i 6 troedfedd o led. Mae'n wydn hyd Barth
5, -15 F. Gorchuddir ei ganghennau niferus â dail bytholwyrdd siâp
hirgrwn, sydd 1 1/2 i 2 1/2 modfedd o hyd, wedi eu matio â blew.
Mae ei flodau gwyn persawrus, sydd 1 i 3 modfedd o led, yn
blodeuo'n aml fesul pâr sydd o bosibl wedi eu staenio'n wyrdd,
lelog neu binc wrth y bôn, yn dibynnu ar yr amrywiaeth.
Rhododendron 'Johanna', adnabyddir fel Asalea Japaneaidd 'Johanna',
Asalea japonica 'Johanna' (Math: Rhododendron, Amrywiaeth neu
Gyltifar: 'Johanna', prysglwyn bytholwyrdd, cryno â dail bach lliw
gwyrdd tywyll, sgleiniog a blodau fflamgoch yn hwyr yn y
gwanwyn.
'Rhododendron croesryw' (Asalea Louise Dowdle Glen Dale)
Asalea bytholwyrdd cryno a ddatblygwyd yn bennaf ar gyfer
caledwch oer y Taleithiau Atlantig Canol .
Mae'r blodau'n syndod o fawr a lliwgar, magenta gyda marciau coch
yn y gwddf, o siâp twndis, i 3 modfedd o hyd. Blodeua yn hwyr ym
mis Ebrill mewn ardaloedd cynhesach, ac mor hwyr â dechrau mis
Mehefin lle mae'r hinsawdd yn oerach. Mae'r patrwm tyfiant yn
ddwys, i 3 troedfedd o daldra a lled. Dylid ei blannu yn union yr
un modd ag y plennir asaleâu eraill: yn uchel mewn pridd asidig
sydd wedi'i ddraenio'n dda, ac sy'n gyfoethog mewn sylwedd organig.
Golau hidledig sydd orau. Er bod gan yr asaleâu restr hir o
broblemau heintiau ac afiechydon posibl, ni cheir problemau â nhw
fel rheol os ydynt wedi eu plannu'n gywir dan amodau diwylliannol
priodol.
'Asalea Gwiwerod'
Lleoliad - Islaw Craig y Castell a chanddo flodau ysgarlad llachar. Asalea bychan, cryno a chadarn iawn.
'Crinodendron Hookerianum' (Y Goeden Lusern): Mehefin 2008
Plannwyd: canol y 1990au
Lleoliad: Llwybr Ymylol a'r ardal o gwmpas Mynwent y Cŵn
Tarddiad: Brodorol o Chile (cylchfa dymherus)
Fe'i hadnabyddir hefyd fel y Goeden Lusern, ac mae ganddi
lusernau rhuddgoch ar goesyn hir sy'n hongian yn dew ar hyd y
canghennau ym mis Mai / Mehefin. Cyflwynwyd i'r DU gan William Lobb
yn 1848 o Chile. Mae'n well ganddi dyfu mewn ardaloedd rhannol
gysgodol. Mae coesau'r blodau yn ymddangos yn yr hydref, ond nid
ydynt yn blodeuo hyd fis Mai. Brodor o Dde Chile ydyw ac mae'n
gallu cyrraedd taldra o 30 troedfedd (9m) yn ei hardal gynhenid.
Dail bytholwyrdd o hirgul i waywffurf, bob yn ail, 1-3 modfedd
(2.5-7.5 cm) o hyd, lliw gwyrdd tywyll ar yr ochr uchaf, lliw
gwyrdd golau ar yr ochr isaf.
Mae'r blodau o siâp cloch geseiliol a blodau crog. Maent yn goch,
di-arogl, ac yn unigol neu wedi eu grwpio mewn parau. Ymddangosant
rhwng canol y gwanwyn â diwedd yr haf. Mae'r ffrwyth yn goden na
ellir ei fwyta, ac sy'n hollti'n agored pan yn aeddfed. Planhigyn o
hinsawdd dymherus sy'n perfformio orau o dan amodau pridd
asidig.
Mai 2008
'Puya Chilensis' : Mai 2008
Plannwyd: 1992
Lleoliad: Gardd Tŵr Telford
Brodor o Chile
Ffaith: Blodau melyn. Prin iawn yn y DU.
Math o blanhigion o'r teulu pîn-afal (Bromeliaceae) o Dde America
sy'n cynnwys tua 120 o rywogaethau.
'Bromelia daearol' yw'r 'Puya Chilensis', sy'n hanu o lechweddau
crinsych Chile. Bytholwyrdd parhaol ydyw sy'n ffurfio dail rhosedau
trwchus llwyd-wyrdd mawr, fel strapiau ag ymylon pigau bachog.
Caiff y blodau gwyrdd-felyn eu ffurfio ar bigau hyd at 2 m o uchder
sy'n debyg i ddrysfa ganoloesol. Mae'n gwasgaru drwy flaguro, a
thros gyfnod o amser gall y 'Puya chilensis' goloneiddio ardaloedd
eang. Mae tyfiant yn araf a gall planhigion gymryd ugain mlynedd
neu fwy i flodeuo.
Plannwyd y rhywogaeth hon gan Philip Brown o hadau a gasglwyd yn
Tresco. Mae 'Puya chilensis' Portmeirion newydd flodeuo.
Mae'r 'Puya chilensis' yn tyfu'n hawdd o hedyn a phan fo'n ifanc,
gall wneud planhigyn tŷ da. Os caiff ei dyfu y tu allan, gall
wrthsefyll barrug ysgafn a hyd yn oed oroesi tymheredd dros nos mor
isel â phum gradd Celsius o dan y rhewbwynt am gyfnod byr.
Mae angen pridd heb galch, wedi'i ddraenio'n dda ar y 'Puya
chilensis'. Gall wrthsefyll sychder ond mae angen digon o ddŵr arno
yn ystod misoedd yr haf. Tuedda i bydru yn ystod y gaeaf os yw'n
rhy wlyb. Mae'n gallu goddef ychydig o gysgod, ond mae'n tyfu orau
yng ngwres yr haul.
'Acradenia frankliniae' (coeden Whitey-wood): Mai 2008
Dyddiad y plannwyd: 1995
Lleoliad: Y Sgwâr Canolog
Brodor o: Tasmania
Ffeithiau: Mae'r 'Acradenia frankliniae', y "goeden Whitey-wood" yn
goeden frysgoediog fytholwyrdd brin o Tasmania. Cynhyrchir toreth o
flodau bychain gwyn yn gynnar yn mis Mai a gellir eu gweld ar y
goeden frysgoediog drwchus gul ei siâp yn ymyl porth bwaog y brif
fynedfa yn yr ardal furiog yng nghanol pentref Portmeirion.
Yn ystod y gaeaf, gall fod yn sialens adnabod i'r ymwelydd sydd â
diddordeb botanegol, i enwi'r rhywogaeth brin sy'n anarferol iawn
gan fod iddi ddail bychain teirdalen gyferbyn sy'n bigog pan gânt
eu malu. Yr olaf yn nodweddiadol o'i deulu, y Rutaceae.
Mae'r 'Acradenia frankliniae' (y goeden Whitey-wood) yn
goeden/llwyn endemig godidog o deulu'r Sitrws (Rutaceae). Mae
ganddi ddail cadarn dwfn a sgleiniog, teirdalen a blodau gwyn
llachar. Nodwedd ddiagnostig yw'r chwarennau diddorol ar yr
ofwl.
Mae'r 'Acradenia frankliniae' yn un o ddwy rywogaeth o'r Acradenia.
Mae'r rhywogaeth arall, sef yr 'Acradenia euodiiformis' yn gynhenid
i Dde Cymru Newydd, Awstralia. Mae'r 'Acradenia frankliniae' yn
gynhenid i ardaloedd gorllewinol Tasmania, lle gwelir y 'Whitey-
wood' yn naturiol.
'Magnolia Elisabeth' : Mai 2008
Dyddiad y plannwyd: 1990
Lleoliad: Tŷ'r Clogwyn
Brodor o: UDA
Plannodd Evamaria Sperber hedyn newydd ei groesi yng Ngardd Fotaneg Brooklyn yn 1957. Gan ei fod yn tyfu o hedyn, cymerodd hyd at 1972 cyn i'r blodyn cyntaf ymddangos. 5 mlynedd yn ddiweddarach, cafodd Ms Sperber ef wedi'i batentu (US PP4145), a'i enwi er anrhydedd i gyfarwyddwr a chymwynaswr yr Ardd, sef Elizabeth van Brunt. Mae'n groesiad rhwng 'magnolia acuminata' a 'magnolia denudata'.
Mae'r blodau o liw briallen cyfoethog i felyn menynog, yn ddibynnol ar leoliad a'r amgylchiadau, gyda chysgodion gwyrdd golau ar y tu allan tuag at waelod y blodamlenni. Wedi ymagor yn ffres o'r blagur, maent yn eistedd yn unionsyth ar ganghennau noeth am ddiwrnod neu ddau, gan ddangos briger melyn cyfoethog yn eu canol. Mae'r petalau'n 5-7cm o hyd, o siâp hirgrwn, â phennau crynion, ychydig yn donnog. Pan fyddant wedi agor yn llawn, mae'r blodau hyd at 8cm o faint mewn diamedr. Mae planhigion impiedig yn blodeuo yn yr 2il neu'r 3edd flwyddyn.
Mae'r dail cwympol yn wrthwyffurf, o dipyn o faint, 12-23 cm o hyd a 7-10 cm o led. Maent yn wyrdd ffres o'r gwanwyn i'r hydref, pan fyddant yn troi'n lliw melyn neu felyn-frown ac yn disgyn yn sydyn. Mae'r prysglwyn yn tyfu mewn siâp pyramid a gall fod 4-5m o uchder a hanner hynny mewn lled fel rheol mewn 20 mlynedd.
'Gunnera Manicata' : Mai 2008
Dyddiad y plannwyd: 1960 - 1980
Lleoliad: Sawl un - y pwll ger Caffi Glas, Llyn y Deml, Cwm
Cysgod
Brodor o: Brasil (mynyddoedd Serra do Mar)
Ffeithiau: Mae'r 'Gunnera' yn fath o blanhigion blodeuog llysieuol,
rhai ohonynt yn anferth. Y rhywogaeth yw'r unig aelod o'r teulu
Gunneraceae. 'Gunnera manicata', brodor o fynyddoedd y Serra do Mar
yn ne-ddwyrain Brasil, yw'r rhywogaeth mwyaf, â dail sydd fel arfer
1.5-2 m (5-6 troedfedd) o led, ond yn eithriadol o hir, hyd at 3.4
m (11 troedfedd), a gludir ar ddeilgoesau tew, suddlon (petioles)
hyd at 2.5 m (8 troedfedd) o hyd. Mae'n egino orau mewn
amgylchiadau llaith iawn, ond heb fod yn wlyb, a thymereddau o 22 i
29 °C.
Fe'i adnabyddir orau fel y 'riwbob anferth', mae'n blanhigyn addurniadol o fewn teulu'r Gunneraceae. Mae gan ochr isaf y ddeilen a'r coesyn yn gyfan bigau arnynt. Mae dail y 'Gunnera' yn tyfu i faint sylweddol iawn. Mae dail o fwy na phedair troedfedd o ddiamedrau yn gyffredin iawn. Mae'r planhigyn hwn yn tyfu orau mewn amgylchiadau llaith, e.e. wrth ochrau pyllau mewn gerddi. Cyfnod blodeuo: Gorffennaf i Awst.
Ebril 2008: 'puya chilensis'
'Puya Chilensis'
Plannwyd - 1992
Lleoliad - Gardd Tŵr Telford
Brodor o Chile
Ffaith: Blodau melyn. Prin iawn yn y DU.
Math o blanhigyn o'r teulu pîn-afal o Dde America (Bromeliaceae)
sy'n cynnwys tua 120 o rywogaethau, gan gynnwys y bromeliaid talaf.
'P. Gigas' (P. raimondii), brodor o ogledd De America, sy'n tyfu
mwy na 10 m (tua 33 troedfedd) o uchder ac yn ffurfio coesyn
blodyn, sydd bron iawn yn 5.4 m o uchder.
Mae'r rhan fywaf o rywogaethau yn tyfu ar lethrau oer, caregog
mynyddoedd yr Andes. Mae'r coesau'n drwchus ac yn brennaidd. Mae'r
dail ochrau pigog anystwyth yn hir ac yn gul ac yn tyfu mewn rhoséd
drwchus. Mae sawl rhywogaeth, megis y 'P. Alpestris' a'r 'P.
Chilensis', yn cael eu tyfu tu mewn i'r tŷ fel planhigion addurnol.
Mae dail y 'P. Chilensis' yn ffynhonnell ffeibr a ddefnyddir
weithiau i wneud rhwydi pysgota.
Bromelia daearol yw'r 'Puya chilensis', sy'n hanu o lechweddau
crinsych Chile. Bytholwyrdd parhaol ydyw sy'n ffurfio dail rhosedau
trwchus llwyd-wyrdd mawr, fel strapiau ag ymylon pigau bachog.
Caiff y blodau gwyrdd-felyn eu ffurfio ar bigau hyd at 2 m o uchder
sy'n debyg i ddrysfa ganoloesol. Mae'n gwasgaru drwy flaguro, a
thros gyfnod o amser gall y 'Puya chilensis' goloneiddio ardaloedd
eang. Mae tyfiant yn araf a gall planhigion gymryd hyd at 20
mlynedd neu fwy i flodeuo. Mae pigau'r dail yn pwyntio tuag i mewn
yn ogystal â thuag allan ac weithiau'n gallu dal adar ac
anifeiliaid bychain. Gan na all yr ysglyfaeth ddianc, mae'n marw o
newyn ac yna mae dadfeiliad y corff wedyn yn darparu maetholion
ychwanegol i'r 'Puya'.
Eleni, mae'r 'puya chilensis' ym Mhortmeirion ar fin blodeuo -
mae'n blanhigyn a chanddo flodau melyn arno.
Roedd gan y 'Puya alpestris' a flodeuodd yma yn Ebrill 2007 flodau
glas - gweler y llun.
Ebrill 2008 : 'magnolia campbellii'
Plannwyd - 1950au
Lleoliad - Tu ôl i Gaffi Glas
Brodor o Nepal / Bhwtan
Ffeithiau - Blodeuo cyn deilio, ac yn parhau am 3 wythnos os na
cheir rhew.
Rhywogaeth o Fagnolia yw 'Magnolia Campbellii' (Magnolia campellii)
sy'n tyfu mewn dyffrynnoedd cysgodol yn yr Himalaia o ddwyrain
Nepal, Sicim ac Asám dwyrain i dde-orllewin Tsieina (de Xizang neu
Tibet, Yunnan, de Sichuan) a de i ogledd Myanmar.
Mae'n goeden collddail o faint canolig i fawr sy'n tyfu hyd at 30
m, ond anaml iawn i 45 m, yn dal, â rhisgl llyfn llwyd. Mae'r dail
yn 10-23 cm (anaml iawn i 33 cm) o hyd a 4.5-10 cm (anaml iawn i 14
cm)o led, yn grychiog oddi tanynt a chyda blaen main. Mae'r blodau
yn fawr iawn, 15-25 cm (anaml iawn yn 35 cm) o ddiamedr, â 12-16 o
betalau, sy'n amrywio o rai gwyn i rai pinc tywyll. Maent yn
ymddangos yn gynnar iawn, cyn y dail, gan agor rhwng diwedd y gaeaf
a'r gwanwyn cynnar. Ar ôl agor, mae'r tepalau dyfnaf yn parhau i
godi tra bod y lleill yn lledaenu yn eang. Gall y trefniant hwn
gysgodi'r briger a'r stigmâu rhag y glaw, yr eira, ac amgylchiadau
geirwon eraill sy'n gyffredin yn ystod cyfnod cynnar y blodeuo.
Mae yna ddau amrywiaeth:
'Magnolia campbellii var. campbellii'. Rhan orllewinol ystod y rhywogaeth, yn yr Himalaia. Blagur a choesynnau blodau tenau blewog.
'Magnolia campbellii var. mollicomata'. Rhan ddwyreiniol ystod y
rhywogaeth, yn Yunnan a'r ardal o gwmpas. Blagur mwy blewog, coesau
blodau ffeltiog trwchus.
Fe'i tyfir fel coeden addurnol oherwydd ei flodau anhygoel, er bod blodeuo llwyddiannus yn gyfyngedig i ardaloedd mwyn heb rew ddiwedd y gwanawyn; 'var. mollicomata' yn blodeuo ychydig yn hwyrach ac yn llai tebygol o gael ei ddifrodi gan rew. Mae coed ifanc yn cymryd amser hir i gyrraedd oed blodeuo ac maent angen pridd dwfn a llaith, mewn safle mwyn a chysgodol. Enwyd sawl cyltifar, gan gynnwys yr 'Alba' (blodau gwyn), 'Charles Raffil' (blodau llachar piws-pinc; sy'n dechrau blodeuo ar goed iau), a'r 'Strybing White' (blodau gwyn). Datblygwyd nifer o groesiadau â Magnolias eraill hefyd.
Ebrill 2008 : 'Rhododendron Fragrantissimum'
Plannwyd - 1980au
Lleoliad - Y Sgwâr (Piazza)
Brodor o Tsieina /Japan
Ffaith: Peraroglus iawn. Blodyn rhosyn gwyn gwridog.
Mae'r 'Rhododendron cv. Fragrantissimum' yn groesryw sylfaenol a dyfwyd cyn 1868 gan ddefnyddio'r rhywogaethau 'Rhododendron edgeworthii' a'r 'Rhododendron formosum'. Mae 'Fragrantissimum' yn llwyn bytholwyrdd. Blodeua ym misoedd Mawrth-Ebrill. Blodau mawr gwyn â gwrid o binc. Peraroglus iawn. 1m x 1m. Pridd asidig i niwtral, llysieubridd cyfoethog, llaith, sydd wedi ei ddraenio'n dda. Heulog neu rannol gysgodol.
Ebrill 2008 : 'Rhododendron macabeanum'
Plannwyd: 1920au
Lleoliad: tu ôl i Gaffi Glas
Brodor o Manipur
Ffeithiau: Blodeuo am 6 wythnos. Un o'r 'Kingdom Wards'. Plannwyd
ym Mhortmeirion gan Caton Haig.
Agwedd gyffredinol a tharddiad - Mae'r 'Rhododendron macabeanum' yn
rhododendron o'r adran 'Ponticum', sy'n frodor o ogledd-ddwyrain yr
India. Prysglwyn neu goeden fychan yw hon, sydd ag agwedd gymharol
unionsyth iddi, ac sydd fwyaf diddorol mewn ardaloedd
rhannol-gysgodol a dangosiadau cysgodol.
Dail - mae'r dail yn rhai bytholwyrdd, o liw gwyrdd tywyll
sgleiniog a hyd at 12-16 modfedd, (30-45cm o faint), gydag
indwmentwm gwyn ar yr ochr isaf. Mae dail newydd yn llwyd-wyrdd
golau ac wedi eu fframio â blodeulenni lliwiedig.
Blodau - Mae'r blodau o liw melyn ysgafn i felyn llachar, gydag
arlliwiau coch. Maent yn blodeuo rhwng dechrau a chanol y
gwanwyn.
Ebrill 2008 : 'Coeden Rhedyn Dicksonia Antartica'
Plannwyd: 1980au
Lleoliad - mewn nifer o ardaloedd yn y Gwyllt.
Brodor o Ddwyrain Awstralia a Tasmania
Ffeithiau - Gall dyfu hyd at 20 troedfedd o uchder. Mae ffrondau
newydd yn agor yn gynnar ym mis Ebrill.
Mae'r 'Dicksonia' yn un math o'r coed rhedyn yn nhrefn Cibredyn. Fe'i hadnabyddir fel perthynas i'r Cibredyn, ond fe'i hystyrir yn fwy cyntefig, yn dyddio'n ôl i gyfnod y Jurasig a'r Cretasaidd o leiaf. Mae'r cofnod ffosil yn cynnwys coesynnau, pinwlâu a sborau.
Mae'r math hwn yn cynnwys 20-25 rhywogaeth, wedi'u dosbarthu o Mecsico i Wrwgwái a Chile, St. Helena, Seland Newydd, Awstralia, Indonesia, Gini Newydd, a'r Philipinau. Gini Newydd sydd â'r amrywiaeth fwyaf, gyda phum rhywogaeth.
Y rhywogaeth sydd wedi'i thyfu fwyaf o'r 'Dicksonia' yw'r 'Goeden Rhedyn Feddal' (D. Antarctica).
Disgrifiwyd y rhywogaeth am y tro cyntaf gan Charles Louis L'Héritier de Brutelle yn 1788. Mae'r enw yn anrhydeddu James Dickson, meithrinwr a botanegwr blaenllaw
