Gwestai Dydd
Mae
PORTMEIRION ar agor bob dydd 9.30yb - 7.30yh
SUT I GYRRAEDD
Dilynnwch yr arwyddion o'r A487 ym Minffordd rhwng
Penrhyndeudraeth a Porthmadog.
Cliciwch yma am fwy o fanylion
Creadigaeth y pensaer Clough Williams-Ellis yw'r pentref unigryw
hwn a godwyd er mwyn dangos bod modd datblygu lle hardd heb ei
ddifetha. Mae 50 o dai yn y pentref a choedwig y Gwyllt a'r Traeth
Bach o'i amgylch. Yn ddiweddar ailagorwyd Castell Deudraeth ar y
brif ddreif ac mae hwn bellach yn fwyty a bar anffurfiol gydag 11 o
lofftydd i fyny'r grisiau.
SIOPAU A BWYTAI
Mae'r siopau'n cynnwys Warws Crochenwaith Ail-Safon, Siop y
Llong, Pot Jam, Siop Lyfrau'r Ddraig Aur, Siop y Prisoner, Oriel y
Gromen, a Chanolfan Blanhigion (ar y dreif ger Castell Deudraeth).
Mae yn y pentref fwyty estyn ato, parlwr hufen iâ Cadwaladers a
Bwyty a Bar Castell Deudraeth (ar agor 11.00 - 11.00 bob dydd). Mae
bwyty Gwesty Portmeirion ar agor am ginio o ddydd Mawrth - dydd
Sul.
Ffôn: Derbynfa Portmeirion 01766-770000
Ffôn: Castell Deudraeth 01766-772400
Ffacs: 01766-771331
Ebost: hysbys@portmeirion-village.com
Gweler hefyd:
Canllawiau Mynediad
