Hanes
Braslun o'r Hanes
Ceir y cyfeiriad hanesyddol cyntaf at Bortmeirion gan Gerallt
Gymro yn 1188: "Bu inni groesi
Traeth Mawr a Thraeth Bychan. Dyma
ddwy fraich y môr, un yn fawr a'r llall yn fach. Codwyd dau gastell
cerrig yno yn ddiweddar. Meibion Cynan sydd piau'r un a elwir yn
Gastell Deudraeth ac fe'i lleolir yn ardal Eifionydd, yn wynebu
Mynyddoedd y gogledd.". Sonnir am gastell Aber Iau gan Edward Lhuyd
yn Parochalia II (1700). Yr oedd gan Aber Iâ ffowndri, iard longau
fechan ac ychydig o fythynnod. Yn 1814 cafodd ei breswylydd mwyaf
ysgeler, yr Hwntw Mawr, ei grogi'n gyhoeddus yn Nolgellau am
lofruddio morwyn leol. Erbyn y 1850au fodd bynnag, yr oedd naws mwy
bonheddig i'r lle. Yn 1861 ysgrifennodd Richard Richards y
disgrifiad hwn: "doedd yno'r un adyn byw, dim ond haid o hwyaid
estron ar lyn bychan, a dau fwnci a roddai'r argraff, o'u sŵn, fy
mod yno'n tresmasu. Yr oedd yr ardd ei hun yn un hyfryd, a'r
waliau'n goed ffrwythau drostynt …….Aberia, yna ddarllennydd hoff,
fe welir plasty hardd ar lan Traeth Bach, ym Meirionnydd."
(Brasluniau pin ac inc).
Prynodd Clough y safle yn 1925 am lai na £5,000. Pryd hynny, fel yr ysgrifennodd Clough, yr oedd "mewn cyflwr difrifol o ddiffyg ymgeledd - wedi'i adael ers talwm gan y rhamantwyr hynny a welodd apêl unigryw a phosibiliadau'r penrhyn prydferth hwn ond a gollodd rheolaeth ar eu tirlunio mawreddog........a mynd yn fethdalwyr." Yn ddi-oed, penderfynodd Clough newid ei enw o fod yn Aber Iâ i fod yn Bortmeirion: Port oherwydd ei leoliad ar hyd yr arfordir a Meirion gan mai dyma'r Gymraeg am Merioneth, y sir lle safai o'i mewn. Ymddangosodd yr erthygl cyntaf am Bortmeirion yn The Architects Journal (Ionawr 6, 1926) ynghyd â llun o fodelau graddfa a dyluniadau arbrofol a baratowyd gan Clough i wneud argraff ar ddarpar fuddsoddwyr. Yn yr erthygl hwn dywed John Rothenstein: "Ar hyd arfordir Gogledd Cymru, nepell o'i hen gartref ei hun, Plas Brondanw, mae wedi prynu'r hyn a dybia i fod yn safle delfrydol, ac mae wrthi'n cynllunio ac yn modelu ar gyfer codi pentref cyfan arno. Bydd canlyniadau ei gynllun yn sylweddol a dylai wneud llawer i chwalu'r syniad presennol, sef er y dylid cynllunio tai yn ofalus, y gall trefi godi trwy hap a damwain."
Yr oedd y syniad o greu pentref arfordirol clòs eisoes wedi
gwreiddio ym meddwl Clough rai
blynyddoedd cyn iddo ddod o hyd i'r
safle perffaith. Er i Clough awgrymu'n ddiweddarach na chafodd y
datblygiad ei gynllunio, mae'r brasluniau a'r modelau hyn yn
awgrymu'n wahanol. Ymddengys fod ganddo weledigaeth glir ar gyfer y
pentref o'r cychwyn a'i fod wedi aros yn driw i'r weledigaeth honno
i raddau helaeth. Codwyd Portmeirion mewn dau gyfnod: rhwng 1925 a
1939 cafodd y safle ei 'begio' ac fe godwyd ei adeiladau mwyaf
nodedig. Rhwng 1954-76 aeth ati i ychwanegu'r manylion. Yr oedd
arddull yr ail gyfnod yn nodweddiadol glasurol neu'n Baladaidd,
mewn gwrthgyferbyniad llwyr i arddull Celf a Chrefft ei waith
blaenorol. Achubwyd sawl adeilad rhag eu dymchwel, gan arwain at i
Clough ddisgrifio'r lle fel "cartref i adeiladau chwâl".
"Rhyfedd yw pleserau'r pensaer", ysgrifennai yn 1924. "Bydd yn gorwedd yn effro yn y nos tra'n gwrando ar y storm ac yn meddwl am y glaw'n curo ar ei doeau, gwêl yr haul yn dychwelyd gan feddwl mai i union haul o'r fath y gwnaed saernïaeth ei gerrig i daflu cysgod." Codwyd ei adeilad olaf pan oedd yn 93 mlwydd oed. Rhoddodd Portmeirion bleser i Clough gydol ei oes a'i obaith oedd y byddai'n rhoi yr un mwynhad i eraill. Ei arwyddair oedd "Trysori'r Gorffennol, Addurno'r Presennol, Codi ar gyfer y Dyfodol." Brwydrai dros harddwch, "yr hanfod rhyfedd hwnnw".
Mae Portmeirion a Phlas Brondanw ym mherchnogaeth elusen gofrestredig o'r enw Ail Ymddiriedolaeth Portmeirion
