Skip to content

Cesig Gwynion

Yn wreiddiol, bwthyn pysgotwr oedd Cesig Gwynion (rhan 18fed g., ehangwyd 1966; rhestrwyd yn Radd II yn 1971). 

Adeilad cerrig unllawr a simne'n y canol gyda phatrwm traddodiadol Cymreig yw'r darn hynaf. Mae estyniad Clough yn cysylltu'r Tŵr Gwylio i'r hen fwthyn. Mae wedi'i godi ar fwâu dros y llwybr sy'n edrych dros angorfa gychod. Ar un adeg, bu'r bwthyn yn gartref i Thomas Edwards, gŵr ysgeler o Dde Cymru a adwaenid yn well yn lleol fel yr Hwntw Mawr a fu'n gweithio fel llafurwr i William Maddocks ar gob Porthmadog. Yn 1813 fe'i crogwyd yn gyhoeddus yn Nolgellau am lofruddio Mary Jones, morwyn ar fferm Penrhyn Isaf ger Portmeirion, tra'n lladrata. Rhoddwyd yr enw Cesig Gwynion ar y bwthyn am fod tonnau gwynion, adeg penllanw yn y gwanwyn a'r gwynt yn chwythu o'r de-orllewin, yn hyrddio yn erbyn ei waliau ac weithiau'n dod i mewn. Ar un adeg fe'i defnyddiwyd gan Clough fel gweithdy lle arferid gwehyddu a lliwio brethyn. Yn 1966 troswyd Cesig Gwynion gan Clough yn llety trwy ychwanegu dwy lofft wedi eu codi ar fwâu uwchben llwybr y traeth oddi tano. Patrick McGoohan oedd un o'i breswylwyr cyntaf a bu'n aros yn Cesig Gwynion tra'n ffilmio 'The Prisoner' yn 1966 ac 1967. Ymhellach ymlaen ar hyd yr arfordir mae goleudy ffug sy'n nodi pwynt mwyaf deheuol Portmeirion. Gwnaed y goleudy o shîts metel gyda brig addurnedig a hen grochan bwyd moch â'i draed i fyny ar ei ben; yr oedd yn ei le erbyn 1963.

Cofrestru a’n cylchlythyr

I gael gwybod am y newyddion a cynnigion diweddaraf yn Mhortmeirion yna ymunwch a'n cylchlythyr

Diolch yn Fawr

Mi rydych wedi llwyddo i gofrestru a Cylchlythyr Portmeirion