Cynlluniwyd Neuadd y Dref (1937-38, rhestrwyd yn Radd II* yn
1971), a adwaenir hefyd fel Neuadd Ercwlff, i gynnwys nenfwd
Jacobean, paneli a ffenestri myliwn a achubwyd o Emral yn Sir y
Fflint.

Ar flaen y Neuadd mae gatiau haearn gyr cain yn dyddio'n ôl i
1908, rhwng pileri stwco gyda chornis ac wrn (rhestrwyd yn Radd II)
ar eu pennau. Plas Emral oedd un o blastai mwyaf Cymru, yn gartref
i deulu'r Pulestoniaid am 700 o flynyddoedd. Crogwyd y cyntaf, Syr
Roger, gan y werin tra'n ceisio codi trethi ar ran Edward I.
Taflwyd yr olaf oddi ar gefn ei geffyl yn erbyn capel Emral,
adeilad y bu mor eofn â'i drosi'n gytiau i gadw ei gŵn; bu farw'n
wallgof yn 1775.
Tŷ dwfn tairochrog gyda ffos o'i amgylch oedd Emral, gyda'r rhan
canolog a'r hynaf ohono (dechrau'r 17eg ganrif) yn cynnwys y nenfwd
plastr 'fowt-faril' hynod sy'n dangos llafuriau Ercwlff.
Ychydig flynyddoedd cyn yr Ail Ryfel Byd, bu Clough yng
nghwmni Harley Granville-Barker a Terence Gray o Theatr Gŵyl
Caergrawnt yn trafod cynlluniau ar gyfer tŷ opera bychan yr oedd
awydd ei godi pan ddigwyddodd â sylwi ar nodyn trist yn y
marwolaethau yn Country Life yn cyhoeddi dymchwel Plas Emral. "Yn
syn gyda'r newyddion.....ffoniais yr Ymddiriedolaeth
Genedlaethol.......Rhy hwyr a dim pres. Yna Amgueddfa'r V &
A....dim lle. Teimlwn felly ar unwaith y dylwn wneud rhywbeth yn ei
gylch fy hun: paciais fag, daliais drên, a chyrraedd Emral fel yr
oedd yr arwerthiant yn dechrau......Lle'r oedd y neuadd ddawns yn y
cwestiwn, y nenfwd ddaeth ar werth gyntaf a, gan nad oedd neb bron
am fidio am lot mor anhylaw ac ansicr ei werth, fe'i cefais am y
swm pitw o dair punt ar ddeg. Wrth gwrs, bu'n rhaid i mi brynu
gweddill yr ystafell wedyn am unrhyw bris; yr hen wydr plwm yn ei
ffenestri myliwn, grât y tân, yr architrafau a'r cornisiau derw - y
cwbl. Ac wedi ymrwymo fy hun cyn belled â hynny, dim ond doeth
fyddai i mi brynu mwy fyth o'r hen dŷ er mwyn codi adeilad newydd
addas yn gartref i'r hen neuadd ddawns. O hyn y deilliodd yr
olwg gymysg braidd sydd ar yr adeilad a elwir heddiw yn Neuadd y
Dref, clytwaith o ddarnau Jacobean sy'n ychwanegu diddordeb ac
urddas at adeilad sydd fel arall, yn fy marn i, yn syml o fodern.".
Cryfhawyd y nenfwd o'r tu ôl gan saer-fforman Clough, R.O.Williams,
ac wedi'i rifo a'i lifio yn gannoedd o wahanol ddarnau, dyma ostwng
pob darn i gewyll yn llawn gwellt. Anfonwyd y llun o'r nenfwd gan
Harvey Burton, Bryste at R.O.Williams ar 22ain Awst 1938. Mae
cerfluniau uchel y nenfwd bwaog yn rhoi sain acwstig ardderchog i'r
neuadd fel y tystia cerddorion fel Syr Arthur Bliss, Gerald Moore,
Yvonne Arnaud, Boyd Neel ac Elena Gerhard. Daw'r gril hirgrwn o Hen
Fanc Lloegr. Ar ben y llusern mae coron gopr addurnedig ar ben hen
grochan bwyd moch â'i draed i fyny. Neuadd y Dref yw'r unig adeilad
sylweddol ym Mhortmeirion a hwn hefyd yw un o'i rai mwyaf
llwyddiannus.
Saif cerflun o bortread gan Jonah Jones wrth droed grisiau'r
neuadd. Mae'r arysgrif hwn arno: "A tribute by one on behalf of the
many who have shared his own pleasure in what has been here
achieved." Cerfiodd Jonah hefyd gorbel o ben Clough ar
y Golofnres yn ogystal â phlaciau llechi a cherfiadau
eraill ym Mhortmeirion. Ysgrifennodd Clough hyn amdano: "Jonah
Jones, cerflunydd amryddawn a llawn sensitifrwydd sydd, yn ffodus,
yn gymydog ac yn rhywun sy'n creu gwaith gwych y mae'n fraint
gennyf ei arddangos."