Ty Cregyn
Yn union islaw Tŷ Clogwyn ar ben y clogwyn y
mae'r Rotunda neu'r Tŷ Cregyn (1960, rhestrwyd yn Radd II yn 1971)
ac fe'i cyrhaeddir trwy ddringo grisiau o'r Gatws a thrwy borth
bwaog llechi. Mae'n cynnwys llwyfan gwylio uwchlaw tŷ o gregyn.
Codwyd yr adeilad unllawr hanner crwn hwn gyda'i do fflat a'i
Astrolab canolog i ychwanegu elfen ddifyr at banorama Portmeirion
o'r môr, gan hefyd ddarparu llwyfan gwylio godidog dros yr aber i
gyd. O'r môr mae'n edrych fel byncer amddiffynnol neu wylfa i
warchod yr arfordir. Mae gan y grotto cregyn islaw bump agoriad ac
mae ei furiau a'i nenfwd wedi eu haddurno gydag amrywiaeth o gregyn
lleol. Mae llwybr yn arwain o'r Tŷ Cregyn trwy'r coed ar ochr y
clogwyn, i lawr grisiau eithaf serth a thrwy sawl logia hyd nes
cyrhaeddir llwybr yr arfordir a'r Cwch
Cerrig islaw.
