Y Batri
Cynlluniwyd y Batri (1927, rhestrwyd yn Radd II yn 1971) fel 'Bloc C' ar gynllun dyddiedig Mawrth 21ain 1927.

Adeilad trillawr yn arddull 'Ceintaidd' yr 18fed ganrif ydyw,
gyda ffenestr gilgant 'stwco' ar y llawr gwaelod ynghyd ag estyll a
bargodion llydan uwchlaw. Sonnir amdano mewn erthygl ar Bortmeirion
gan E.Maxwell Fry yn yr Architects' Journal ym Mehefin 20fed, 1928.
Ar ôl trafod y Tŷ Gwylio mae'n disgrifio'r Batri fel "tŷ wedi'i
beintio'n wyn drosto gan edrych allan yn dawel tua'r môr, fel pe na
bai'n ymwybodol o'r tŵr a godai o ddryswch ei sgaffaldiau i dorri
ar awdurdod y cyntaf-anedig." Y bythynnod eraill a gwblhawyd erbyn
y dyddiad hwn oedd yr Angel a Neifion ar lawnt y pentref. Rhoddwyd
cyfiawnhad i'r enw Batri trwy osod pâr o ynnau canon i warchod ei
deras caerog. Daeth y rhain o Gaer Belan, a godwyd ar y Fenai i
wrthsefyll yr ymosodiad a ddisgwylid gan Napoleon. Bwthyn hunan
ddarpar i chwech yw'r Batri gyda llofft ddwbl, llofft dau wely a
dwy lofft sengl, cegin fwyta ac ystafell fyw, dwy ystafell ymolchi
a theras y tu allan. Yr oedd yr Ystafell Siartiau ar y llawr
gwaelod yn union o dan y Batri, ac unwaith yn fodurdy..
