Y Gwesty
Y Gwesty (1840, ehangwyd yn 1926 a 1930; rhestrwyd yn Radd II yn 1971) oedd plasty gwreiddiol Aber Iâ. Fe'i codwyd tua 1850 a'i ddisgrifio gyntaf gan Richard Richards yn 1861 fel "un o'r plastai prydferthaf o'r holl dai haf ar hyd arfordir Cymru." Fodd bynnag, pan ddaeth Clough o hyd i'r lle yn 1925, wynebai wall ymgeledd difrifol a gerddi wedi tyfu'n wyllt. "Yn amlwg, yr oedd yn rhaid i mi wneud rhywbeth gyda'r hen dŷ ar lan y môr ac os oeddwn am gael pentref, byddai'n rhaid iddo gael sail economaidd. Yr oedd twristiaeth yn cynnig ei hun yn amlwg. Yr oedd yn Basg 1926, wedi llai na blwyddyn o baratoi a heb wneud fawr ddim newidiadau, pryd yr agorwyd yr hen dŷ gwreiddiol braidd yn betrus fel gwesty didrwydded."
Cynlluniwyd estyniad cyntaf Clough ar
gyfer yr hen dŷ ym mis Hydref 1926. Yr oedd yr adain newydd, ar
ffurf tŵr, yn estyniad ar ochr orllewinol yr hen dŷ ac yn codi'n
agos at wyneb y clogwyn. Yr oedd yr adain wedi'i gwyngalchu'n felyn
yn wreiddiol, a dibynna ei chynildeb ar y defnydd a wneir o gaeadau
ar du allan y ffenestri, wedi eu peintio'n wyrdd sef y lliw sy'n
nodweddiadol bellach o'r pentref. Ychwanegodd Clough fwyty newydd
yn 1930. Ond yn lle ail-greu arddull Fictorianaidd y gwreiddiol,
addasodd Clough gynllun bwaog, llawn gwydr o gysyniad tra Modern.
Agorwyd yr ystafell erbyn y Pasg 1931, fel a nodir mewn rhifyn
cynnar o'r Llyfryn: "Erbyn mis Awst, roedd y bwyty bwaog mawr
newydd sbon wrth ymyl y lli, a agorodd yn betrus braidd ar gyfer y
Pasg, yn gwbl annigonol i ddarparu ar gyfer y preswylwyr a'r
ymwelwyr dydd hefyd."
Fel a nodwyd gan Richard Haslam, gyda'r
estyniad hwn fe wireddodd Clough ddau o'i ddymuniadau: "mae'n lle,
oherwydd yr olygfa gysgodol dros y môr a'i awelon mwyn, sy'n galw
am ysgafnder adeiladwaith; lle a ddiffinnir gan ei gromliniau'n
unig ar ei gynllun. Mae ei gyfan bron yn bren; ffenestri yw'r
waliau allanol bron i gyd, dangosir gwaith pren syml ei do fflat ar
y darlun, ac mae'r colofnau wedi eu torri o ddarnau hwylbren hen
sgwner o Borthmadog."
Ychwanegodd Clough fynedfa newydd a swyddfeydd mewn arddull debyg tua 1935. Yr oedd yr ychwanegiadau hyn ar flaen y gwesty yn parhau mewn defnydd hyd nes eu dinistrio yn nhân 1981. Ers eu cynllunio fel waliau gwydr ar gynlluniau bwaog o dan doeau fflat, llefydd modern a dilyffethair oeddent, fel bo'r gwesty'n medru cyd-fyw gyda thŷ Fictorianaidd o dan y clogwyn.
Ar nos Wener 5ed Mehefin
1981, llosgwyd y tŷ yn ulw gan dân, gyda gwynt cryf o'r dwyrain yn
megino'r fflamau. Dechreuwyd ar y gwaith o'i ailgodi bron yn syth
ac, ar ei ddiwedd, roedd pob un o'r prif ystafelloedd wedi eu
hadfer i'w cyflwr gwreiddiol fel y tystia disgrifiad Clough o'r tu
mewn gwreiddiol: "Wrth i chi ddod i mewn i'r cyntedd heibio i le
tân cerfiedig anferth yn null dadeni'r Eidal, fe welwch rediad o
risiau llydan braf, sy'n nodweddiadol o'r 18fed ganrif, a balwstrad
urddasol........Ni wyddys neb o ble y daeth, ond fe wyddom o ble
daeth y llyfrgell wrth ei droed, sef o Arddangosfa Fawr 1851 -
ynghyd â'i silff ben tân a'i ddrysau cerfiedig cywrain - a'u codi'n
syth o fewn tŷ a oedd, erbyn hynny mi dybiwn, yn barod i'w derbyn.
Drws nesaf iddo, wrth ddod i mewn i'r Ystafell Ddrych, fe
adlewyrchir yr olygfa y tu chwith allan; mae'r silff ben tân wedi'i
chynnal gan gylchau aur pâr o seintiau cerfiedig. Mae'r llawr
parquet, sydd wedi'i fewnosod, wedi goroesi o'r adeg pan
ddefnyddiwyd yr ystafell i gadw cŵn yno - mae'n syndod nad oes marc
arno. Yr ystafell biliards oedd yr ystafell fawr ym mhen draw'r
cyntedd yn wreiddiol - lle braf gyda ffenestr lydan yn edrych dros
y môr, ac alcof lydan gyferbyn......dyma oedd y bwyty pan ddaeth y
tŷ yn westy gyntaf, a pharhaodd i gael ei ddefnyddio felly hyd nes
i mi adeiladu un newydd bwaog y tu
hwnt iddo." Ail-agorwyd y gwesty ar
29ain Ebrill 1988 ac, yn 1990, enillodd Wobr César y Good Hotel
Guide am "adfer gwesty enwog i'w ogoniant blaenorol".
Gwnaed bar y 'caban peilot' gyda choed o'r HMS Arethusa, y llong ryfel olaf i fynd i ymladd. Yma y cadwyd y cwpan grisial (uchod) a wnaed gan Laurence Whistler i nodi pedwar canmlwyddiant Portmeirion. Collwyd y bar a'i gynnwys yn y tân ar 5ed Mehefin 1981.
Yr oedd cwsmeriaid tra adnabyddus yn dod i'r gwesty, yn eu plith H.G. Wells, George Bernard Shaw, Bertrand Russell, Noël Coward a Syr Kenneth Clark. Tynnwyd y llun te hwn tua 1930.
Bu James Wyllie yn rhedeg y gwesty rhwng 1927 a 1953. Yr oedd hefyd yn arlunydd ac mae ei waith yn hongian mewn sawl un o'r bythynnod. Yr oedd Agatha, ei barot, yn hedfan yn rhydd trwy'r dydd dros gyfnod o tua degawd. Arferai ddisgyn i lawr o'r Tŵr Clychau, a hedfan mewn cylch dros y môr cyn glanio ar ei ysgwydd.
