Y Gyfarchfa
Yn wreiddiol, y Gyfarchfa oedd y loj a'r bloc stablau yn Aber Iâ (c.1850, rhestrwyd yn Radd II yn 1971) ac fe'i codwyd rhwng 1842 a 1858.

Fe'i disgrifir yn 1861 ym Mrasluniau Pin ac Inc Richard Richards fel "Y Loj, gyda'r stablau drws nesaf, a'r rhain wedi eu hadeiladu gyda'r holl welliannau mwyaf modern". Yr oedd y to llechi 'cen pysgodyn' yn nodwedd o adeiladau'r 19eg ganrif yma ac i'w gweld hefyd ar y Môr-Forwyn a'r Gwesty. Mae gan y Gyfarchfa yr un simneiau troellog â'r gwesty. Addaswyd yr arddull ar gyfer y bloc stablau "mewn dull rhywsut-rywsut braidd" unwaith iddo gwblhau'r Angel a Neifion. Yn 1966-67 addaswyd y talcen dde mewn arddull debyg i dalcenni tai'r Iseldir.
Defnyddiwyd yr adeilad gyntaf fel caffi yn 1931 pan na
allai'r gwesty ymdopi â nifer yr ymwelwyr mwyach: "Er gwaetha'r
digalondid economaidd" ysgrifennai Clough, "profodd tymor 1931 nad
ydym wedi symud yn rhy bell nac yn rhy gyflym ond yn hytrach, er
embaras i ni braidd, nad oeddem wedi rhagweld twf ein poblogrwydd.
Agorwyd y bwyty crwm newydd sbon ar lan y môr mewn pryd ar gyfer y
Pasg a chyda pheth amheuaeth ac, yn wir, erbyn mis Awst, yr oedd yn
gwbl annigonol i ddarparu ar gyfer y preswylwyr a'r ymwelwyr dydd
hefyd....Mae'r Gyfarchfa yn gweini ar y teithiwr diaros naill ai yn
y Salle gyda'i llawr marmor du a gwyn.....neu ar un o'i therasau,
ynghanol coed llawryf siapus ac yrnau blodau o dan gysgod coed
sycamor." Yn ogystal â Bwyty'r Gyfarchfa, yr oedd gan yr adeilad
hefyd Siop y Llong, a sefydlwyd gan ferch Clough Susan, a'i
gŵr Euan a arbenigai yn ei Chrochenwaith
Portmeirion (uchod ar y chwith, c.1965) ac, yn wir, mae'n dal i'w
gwerthu hyd heddiw. Cynlluniodd a pheintiodd Susan furlun lliwgar o
winwydd a chiwpidau gyda ffynnon a cholomennod gwynion ar ochr yr
iard i'r adeilad hwn ac yn 1996, ar ôl peintio drostynt, cawsant eu
hail-greu gan yr arlunydd Nigel Simmons. Uwchben y siop mae dwy
lofft ddwbl a swît.
