Yr Angel
Yr Angel (1926, rhestrwyd yn Radd II yn 1971) oedd bwthyn cyntaf Clough ym Mhortmeirion.

Fe'i galwyd yn Angel am fod gan Clough arwydd deniadol iawn o angel yr oedd eisiau ei ddefnyddio. Mae ei gynllun yn dyddio o ddiwedd 1925 neu ddechrau 1926 ac fe godwyd y bwthyn yn 1926-27 ynghyd â Neifion ('Bloc y Modurdy'). Cyfeirir at y ddau fwthyn fel 'Bloc A' a 'Bloc B' ar ddarluniau cynnar Clough. Mae y rhan fwyaf o ddarluniau Clough o Bortmeirion yn eithaf elfennol ac yn rhagbrofol iawn eu natur, gyda sgôp i wneud amrywiadau yn ystod yr adeiladu. O ran arddull, cymeriad traddodiadol de-orllewin Lloegr sydd i'r Angel heb fawr ddim ochrau syth nac onglau dde. Nodir y deunyddiau fel brics 9 modfedd ar y llawr gwaelod, coed pared 4 modfedd wedi eu hwynebu gyda phlastr sment ar y llawr cyntaf, a ffenestri casment metel gan Crittall. Erbyn heddiw, bwthyn hunan ddarpar i chwech yw'r Angel (un llofft ddwbl, dwy lofft dau wely, un ystafell ymolchi, ystafell fyw, ystafell fwyta a chegin). Ar deras deheuol yr Angel, cododd Clough Astrolab i goffáu dechrau'r haf. Dywed y geiriau o amgylch y fainc gron, 'To William Willett, in gratitude'. Bu William Willett yn flaenllaw gyda chyflwyno amser yr haf ac arbed oriau dydd a chredai Clough y dylem oll fod yn ddiolchgar i'r gŵr a roddodd ein nosweithiau o haf hirfelyn tesog i ni.
