Cwch Cerrig
Nid yw'r Cwch Cerrig (1930) cweit yn adeilad nac yn long, ond yn ychydig o'r ddau.

Cyn gynted bron ag yr agorwyd Portmeirion yn 1926,
prynodd Clough hen gwch masnachu hardd o Borthmadog, yn pwyso tua
70 tunnell, a'i angori ar hyd y cei. Fe'i troswyd a'i ddefnyddio
fel tŷ cwch gyda dŵr a thrydan ar ei gyfer. Rhan o'r syniad oedd y
byddai gweld llong fôr sylweddol wedi'i hangori yn yr harbwr yn
awgrymu i rai a fyddai'n hwylio heibio fod y porthladd bach ar agor
unwaith eto. Ond yn ystod storm o wynt sydyn gyda phenllanw'r
gwanwyn oddi tani a'i hangor yn llusgo, fe'i 'sgubwyd allan i
gyfeiriad Ynys Gifftan ac aeth yn sownd yno ar draethell serth fel
ei bod yn gorwedd, wedi i'r llanw fynd allan, ar ei lled, ei
hwylbrenni bron yn llorweddol a'i chêl yn yr awyr. Ar ôl methu ei
hachub, a thrwy ei fod bryd hynny wrthi'n adeiladu cei newydd yn
lle'r morglawdd o dan y gwesty, sylwodd Clough fod pen y cei yn
dilyn bron union linell ganllawiau'r llong. Penderfynodd achub
faint a allai o'r llong a'i hailgodi fel llong ar y tir.
Defnyddiwyd darnau o'i phrif hwylbren yn bileri i gynnal to fflat y
bwyty.
Mae balwstrad lawnt y gwesty a'i gerfluniau cerrig Coade yn
nodweddion Fictorianaidd gwreiddiol a addurnwyd gan Clough yn 1930
gyda logia urddasol oddi ar y cei o'r enw Casino.
