Yr Hen Dderbynfa
Cynlluniwyd Loj y Siantri (1969,
rhestrwyd yn Radd II yn 1971), sef yr enw iawn ar y Dderbynfa, yn
1968 fel tŷ deulawr syml domestig ei gymeriad. Mae gan y ffenestri
blaen ar y llawr cyntaf baenau siâp diemwnt sy'n nodweddiadol o
waith Clough. Mae'r agoriad drws bwaog i'r chwith o'r canol gydag
agoriad bwaog arall yn agor i'r llawr cyntaf ac un arall yn agor i
iard yr ystad. Defnyddwyd y llawr gwaelod fel swyddfa gweinyddol a
prif swyddfa archeb llety hyd at 2010. Mae gan y pentref ddeugain o
lofftydd en-suite, 14 yn y prif westy a 28 yn y pentref. Mae yma
hefyd 17 o fythynnod hunan ddarpar i rhwng dau ac wyth o
bobl.
