Map y Pentref
1
Gwesty a'r Cei
Yma mae cyfle i flasu yr oll sydd gan Portmeirion i'w gynnig, pe bae yn bryd bwyd wedi ei gynhyrchu gan ein cogyddion, neu ystafell foethus yn y Gwesty. Mae digon o bethau i'r teulu yma hefyd, gyda phwll nofio, a beth am fod yn morleidr, cyn dennig lawr y llwybr tua'r goleudy.
2
Sgwar y Gyfarchfa a Neuadd Ercwlff
Llawer o ddewis i fwyta a siopau yma, gyda llwybrau yn mynd i ddarganfod y Gwyllt. Yma y mae stesion y tren Gwyllt, ac mae dewis eang o lety.
3
Y Sgwar Ganol
Yn y Sgwar Ganol cewch flas ar fwrlwm pentref Portmeirion, ac mae yn fan wych i gymdeithasu o dan haul braf yr haf. Ac os am fwynhau pryd, yna mae Caffi Glas yn llawn bwydydd Eidaleg a fydd yn siwr o'ch plesio.
4
Batri
Yn Sgwar Batri mae dewis eang o lety, yn ogystal a Sba y Mor Forwyn, Siop Rhif 6, Caffi Sgwar. Mae yn le da i gael coffi ar y Sgwar tra'n cymdeithasu.
5
Siantri a'r Groto
Gyda digonedd o le i aros, a golygfeydd gorau o'r sgwar ganol oherwydd y lleoliad uchel, mae'n rhaid ymweld a Oriel Rob Piercy er mwyn tystio ei waith gwych o amgylch y Pentref.
6
Ardal Groeso
Ardal o lle mae dechrau ar eich taith ym Mhortmeirion, cewch daith tywys a fydd yn eich cyflwyno i'r pentref, cyn mentro ymhellach, a darganfod y pentref i gyd cyn dychwelyd am adref.
