Ymweliadau grŵp
Prisiau
Grwpiau 2012 - 13 a Manylion Trefnu
Cynigiwn brisiau arbennig i grwpiau o 12 neu fwy o blant ac oedolion cyn belled â'u bod yn talu gydag un taliad (gallwn drefnu i'ch anfonebu o sefydlu cyfrif gyda'r ffurflen isod)
Telerau Grwpiau Gaeaf (4 Tach 2012 - 28 Chwef 2013) gan gynnwys 20%TAW
| Tocyn | Llawn | Grwp |
| Oedolion | £10.0 | £4.00 |
| Plant (5 - 15) | £6.00 | £3.00 |
Telerau Grwpiau Tymor 2013 (1 Mawrth - 1 Tach 2013) gan gynnwys 20%TAW
| Tocyn | Llawn | Grwp |
| Oedolion | £10.0 | £8.00 |
| Plant (5 - 15) | £6.00 | £5.00 |
| Plant dan 5 | £0 | £0 |
Mynediad am ddim i'r gyrrwr a'r tywysydd gan gynnwys pryd o fwyd yn y bwyty estyn ato gyda thocyn bwyd o'r tollborth.
Archebu
Rydym yn argymell i chi archebu lle i'ch grwp ymlaen llaw drwy ffonio, ffacsio, ebost neu gyda'r ffurflen archebu arlein isod.
Rhif Ffon archebu. 01766 772311
Rhif Ffacs archebu 01766 771331
ebost: toll@portmeirion-village.com
Dewiswch y ddolen isod i lenwi'r ffurflen archebu
Teithiau Tywys
Gallwn drefnu teithiau tywys i grwpiau o 12 neu fwy drwy apwyntiad. Er mae teithiau tywys byr ar gael am ddim i bawb rhwng mis Ebrill a mis Hydref. Er mwyn archebu taith dywys ymlaen bydd angen cysylltu a Meurig Jones, Rheolwr Stad, ar meurig@portmeirion-village.com (Ffon 01766 772306). Bydd grwpiau gyda mwy na 23 yn cael ei rhannu yn ddau grwp. Ar hyn o bryd rydym yn gallu cynnig y teithiau canlynol: -
Taith o amgylch Y Gwyllt
Taith o gwmpas 70 acr o goedwigoedd gyda Prif Arddwr Portmeirion Arwel Hughes. Mae gan Arwel dros 30 mlynedd o brofiad yn Mhortmeirion ac mae wedi cynnal teithiau tywys i RHS, National Trust a llawer mwy.
Portmeirion - Y lle a'i bwrbas Persaerniol
Taith tywys o amgylch y Pentref yn rhoi blas ar genesis a'r datblygiadau ar y safle unigryw yma, Pam? Pryd? a Sut? i gyd wedi eu ateb yn ogystal a eglurhad o foesau pensaerniol Clough Williams-Ellis.
Parcio
Mae maes parcio y coetsys wrth y mynedfa i'r pentref, ac mae arwyddion ar y lon. Mae lle i 12 o goetsys ar y tro yma, gyda parcio ychwannegol ar gael os bydd angen. Rydym yn croesawu ryw 750 o dripiau coetsys i Bortmeirion y flwyddyn ar gyfartaledd.
Cysylltiadau
Trefnu ymweliad Grwp
Ffon 01766 772311
ebost : toll@portmeirion-village.com
Am gwestiynnau cyfrifon galwch Haf Jones ar 01766 772316
ebost : haf@portmeirion-village.com
Edrychwn ymlaen i'ch croesawu i bentref Portmeirion
